Y Bencampwriaeth: Queen's Park Rangers 1-2 Caerdydd

  • Cyhoeddwyd
CaerdyddFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency

Roedd dwy gôl yn yr ail hanner gan ddau Gymro ifanc yn ddigon i sicrhau buddugoliaeth o 1-2 i Gaerdydd oddi cartref yn erbyn Queen's Park Rangers.

Y tîm cartref aeth ar y blaen wedi 38 o funudau diolch i ergyd Andre Gray o gornel y cwrt cosbi.

Yn fuan yn yr ail hanner fe ddaeth Isaak Davies a Joe Bagan ymlaen i'r cae fel eilyddion, a Davies wnaeth lwyddo i unioni'r sgôr gydag 20 munud yn weddill - golwr QPR, David Marshall, yn methu a rhwystro'r ergyd bwerus rhag croesi'r llinell.

Pedwar munud yn ddiweddarach ac roedd yr Adar Gleision ar y blaen, wrth i Rubin Colwill grymanu cic rydd i gornel ucha'r rhwyd o 20 llath.

Mae'r fuddugoliaeth yn golygu bod Caerdydd mwy neu lai wedi sicrhau eu lle yn y Bencampwriaeth y tymor nesaf.

Mae'r Adar Gleision yn codi i'r 17eg safle yn y gynghrair, 18 pwynt yn glir o'r tri gwaelod.