Y Bencampwriaeth: Abertawe 3-1 Coventry
- Cyhoeddwyd
Roedd hi'n brynhawn llwyddiannus i'r Elyrch ddydd Sadwrn wrth iddyn nhw drechu Coventry City o 3-1 yn y Bencampwriaeth.
Jamie Paterson roddodd Abertawe ar y blaen wedi 12 munud.
Fe wnaeth Michael Obafemi ddyblu mantais yr Elyrch ar ôl 40 o funudau, cyn ychwanegu'r drydedd cyn hanner amser - y tro cyntaf iddo sgorio ddwywaith mewn un gêm.
Fe darodd Coventry yn ôl drwy gôl Gustavo Hamer, ond roedd hynny'n rhy hwyr i gael effaith ar y canlyniad terfynol.
Dyma oedd pedwaredd fuddugoliaeth yr Elyrch yn eu chwe gêm ddiwethaf - ond er gwaetha'r triphwynt, maen nhw'n parhau yn yr 16eg safle yn y gynghrair.
Fe ddisgynnodd Coventry i'r 11eg safle.