Pencampwriaeth Rygbi Unedig: Munster 64-3 Dreigiau

  • Cyhoeddwyd
DreigiauFfynhonnell y llun, Ben Evans/Huw Evans Agency

Cafodd y Dreigiau eu chwalu nos Sadwrn wrth i Munster sgorio 10 cais i'w curo o 64-3 yn y Bencampwriaeth Rygbi Unedig.

Wedi i Craig Casey roi Munster ar y blaen gyda chais gynta'r gêm wedi 11 munud, llwyddodd Sam Davies i ennill triphwynt i'r Dreigiau gyda chic gosb ryw bum munud yn ddiweddarach.

Ond wedi hynny, dim ond cynyddu'r fantais wnaeth Munster - erbyn hanner amser roedden nhw ar y blaen o 28-3 diolch i dri chais pellach.

Aeth pethau o ddrwg i waeth i'r Dreigiau ar ôl hanner amser.

Fe wnaeth Munster sgorio tri chais o fewn 10 munud wedi tua 50 munud o chwarae, a thri arall yn y chwarter awr olaf.

Yn sgil y golled ddifrifol, mae'r Dreigiau'n parhau'n 15fed yn y gynghrair.

Pynciau cysylltiedig