Pencampwriaeth Rygbi Unedig: Scarlets 35-10 Glasgow

  • Cyhoeddwyd
ScarletsFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency

Ar ôl colli eu pedair gêm ddiwethaf, roedd yna groeso yn Llanelli i fuddugoliaeth y Scarlets wrth iddyn nhw guro Glasgow o 35-10 nos Sadwrn.

Glasgow oedd y tîm gorau o dipyn ar ddechrau'r gêm, gyda chais Johnny Matthews yn eu rhoi nhw ar y blaen wedi pedair munud a chic gosb gan Duncan Weir wedi 20 munud.

Ar ei hôl hi o 10-0, fe wnaeth y Scarlets daro yn ôl gyda chais gan Steff Evans toc cyn hanner amser.

Yn yr ail hanner, fe wnaeth y Scarlets gynyddu eu mantais gyda cheisiadau gan Scott Williams, Gareth Davies, Sione Kalamafoni a Ryan Conbeer, a llwyddodd Rhys Patchell i drosi tri chais.

Pynciau cysylltiedig