Pencampwriaeth Rygbi Unedig: Gweilch 27-22 Zebre
- Cyhoeddwyd
Llwyddodd y Gweilch i ddringo i'r chweched safle yn y Bencampwriaeth Rygbi Unedig yn dilyn buddugoliaeth dros Zebre ddydd Sul.
Fe wnaeth Stephen Myler roi'r Gweilch ar y blaen gyda thriphwynt wedi pum munud o chwarae.
Er i Zebre daro yn ôl, roedd y tîm cartref yn arwain o 17-6 erbyn hanner amser, diolch i geisiadau gan Sam Parry a Morgan Morris.
Ond bu'n rhaid iddyn nhw frwydro am eu buddugoliaeth wrth i Zebre ennill y blaen gyda 13 phwynt yn olynol ar ddechrau'r ail hanner.
Fodd bynnag, llwyddodd Myler a Will Griffiths i ennill cic gosb a chais pellach i sicrhau buddugoliaeth i'r Gweilch.