Gweilch yn gwahardd dau chwaraewr am fideo 'annerbyniol'

  • Cyhoeddwyd
Logo GweilchFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency

Mae dau o chwaraewyr rygbi'r Gweilch wedi eu gwahardd gan y rhanbarth yn dilyn "ymddygiad annerbyniol" mewn fideo.

Mae'r fideo, sydd wedi ymddangos ar y cyfryngau cymdeithasol, yn dangos dau chwaraewr yn gwawdio person digartref yng Nghaerdydd.

Dywedodd y rhanbarth bod y ddau wedi eu gwahardd ar unwaith wrth i ymchwiliad barhau.

Dywedodd y Gweilch: "Mae'r ymddygiad yn y fideo yn gwbl annerbyniol ac nid yw'n cael ei esgusodi gan unrhyw un sy'n gysylltiedig â'r Gweilch."

Ychwanegodd y rhanbarth: "Hoffai'r Gweilch ymddiheuro i'r person dan sylw, a'i gwneud yn glir nad yw'r ymddygiad yn cynrychioli ein gwerthoedd mewn unrhyw ffordd."

"Ni fyddwn yn gwneud sylw pellach."

Dywedodd Heddlu De Cymru nad ydynt yn ymwybodol o'r digwyddiad.

Pynciau cysylltiedig