BT: Hwb newydd i 900 o weithwyr Caerdydd

  • Cyhoeddwyd
Capital QuarterFfynhonnell y llun, MATT CANT
Disgrifiad o’r llun,

Mae BT yn bwriadu symud 900 o staff i 'hwb' newydd yn adeilad rhif 3 Capital Quarter y brifddinas erbyn diwedd y flwyddyn

Mae BT yn bwriadu agor swyddfeydd newydd i gartrefu hyd at 900 o weithwyr yng Nghaerdydd.

Mae cynlluniau i fuddsoddi mewn swyddfeydd modern newydd yn ardal newydd Capital Quarter, yng nghalon y brifddinas, fydd yn un o 30 "hwb" ar draws y DU.

Gyda'r swyddfeydd yn cwmpasu 65,000 troedfedd sgwâr, y gobaith yw symud staff i fewn erbyn diwedd y flwyddyn gan hefyd addo agwedd hyblyg at weithio o adre.

Dywedodd Brent Mathews, cyfarwyddwr gwasanaethau eiddo a chyfleusterau BT: "Er gwaethaf yr heriau economaidd a'r newidiadau i batrymau gwaith oherwydd y pandemig, rydym yn credu fod hwn yn fuddsoddiad pwysig ac mae'n sicrhau ein presenoldeb ym mhrifddinas Cymru a'r rhanbarth yn ehangach.

Ffynhonnell y llun, BT
Disgrifiad o’r llun,

Sut mae disgwyl i'r swyddfeydd edrych ar ôl i BT symud fewn

"Mae ein swyddfeydd newydd yn adlewyrchu'r symudiad tuag at ffyrdd mwy hybrid a hyblyg o weithio, gyda chydweithwyr yn gallu dod at ei gilydd, gan ddefnyddio'r technolegau diweddaraf, i gydweithio mewn mannau gwaith ysbrydoledig.

"Bydd yn ein helpu i ddenu a chadw pobl wych ac rydym yn edrych ymlaen at groesawu cydweithwyr i'r gweithle newydd arbennig hwn pan fydd yn barod yn ddiweddarach eleni."

Disgrifiwyd y symudiad gan arweinydd Cyngor Caerdydd, Huw Thomas, fel "pleidlais fawr o hyder yn y ddinas ac yn ein cynlluniau ar gyfer y dyfodol".

Pynciau cysylltiedig