Cyffur canser wedi rhoi atgofion 'fydden ni byth wedi cael'

  • Cyhoeddwyd
TeuluFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Mark Davies yn 2020 ag yntau ond yn 40 oed

Mae 'na alwadau ar y Gwasanaeth Iechyd i wella cyfraddau presgripsiwn ar gyfer cyffur sy'n gwella safon bywyd y rhai sy'n byw gyda chanser y pancreas.

Mae meddyginiaeth PERT (Pancreatic Enzyme Replacement Therapy) yn darparu ensymau i'r corff dorri bwyd i lawr, gan fod y canser yn atal y corff rhag gwneud hynny'n naturiol.

Heb yr ensymau fe fyddai bwyta yn boenus iawn, gan arwain at golli chwant am fwyd a cholli pwysau.

Ond dim ond tri ymhob pum person sydd â chanser pancreatig yng Nghymru sy'n cael cynnig PERT ar bresgripsiwn.

Mae Llywodraeth Cymru'n dweud eu bod yn disgwyl i fyrddau iechyd ddarparu PERT gan ddilyn canllawiau proffesiynol NICE.

50% yn marw o fewn tri mis

Mae canser pancreatig yn un o'r mathau mwyaf ffyrnig.

Yn ôl elusen Pancreatic Cancer UK, mae hanner y rhai sy'n ei gael yn marw o fewn tri mis o gael diagnosis, gyda 5.7% o bobl yng Nghymru yn byw am bum mlynedd.

Mae'r ystadegau yma yn fwy na rhifau i Hannah Davies o Dref-y-Clawdd ym Mhowys, a gollodd ei gŵr Mark i'r afiechyd yn 2020.

"Roedd Mark yn 40 oed ac yn ddyn iach. Roedd yn weithgar iawn gyda'n bechgyn, Freddie a Rupert. Roedd e'n ŵr anhygoel," meddai.

"Ry'n ni'n lwcus iawn ein bod ni wedi dod o hyd i'n gilydd mewn bywyd."

Ffynhonnell y llun, Llun teulu

Ym mis Mawrth 2020 fe ddechreuodd Mark deimlo'n sâl, gyda phoen yn ei stumog, blinder ac fe gollodd chwant am fwyd.

Rhwng Ebrill a Mehefin 2020, ffoniodd ei feddyg teulu 19 o weithiau am ei symptomau, cyn mynd i'r ysbyty ym mis Gorffennaf. Fe gadarnhaodd profion fod ganddo ganser y pancreas.

"Fe 'nath y meddyg ymgynghorol gadarnhau oherwydd maint y tiwmor nad oedd modd cynnig llawdriniaeth a bod y canser yn derfynol."

'Dwli ar ei fwyd'

Un o symptomau canser y pancreas yw bod bwyta yn boenus iawn, sy'n gallu arwain at golli chwant am fwyd a cholli pwysau.

Mae hynny oherwydd nad yw'r ensymau mae'r pancreas yn eu creu - sy'n ein helpu i dorri bwyd i lawr - yn cyrraedd y coluddyn.

Ond mae 'na ateb - meddyginiaeth PERT - cyffur rhad sy'n gwneud gwaith yr ensymau o dorri lawr y protein, carbohydradau a braster yn ein bwyd.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Hannah yn ddiolchgar i feddyginiaeth PERT am roi atgofion da i'r teulu tuag at ddiwedd bywyd Mark

"Pan gafodd Mark feddyginiaeth PERT roedd e'n anghredadwy," medd Hannah.

"Roedd e'n gallu cael, a dwi'n cofio'n iawn, fe gafodd e gaws ar dost - syml! Dyma chi ddyn oedd yn dwli ar ei fwyd.

"Ond roedd hi'n grêt cael gweld e fyn'na yn cael caws ar dost ac yn dweud 'O ma' hyn yn wych, dwi'n gallu bwyta hwn'."

"Fe roiodd e atgofion i ni o allu eistedd a bwyta gyda'n gilydd fel teulu a fydden ni byth wedi cael hwnna oni bai am PERT."

Mae 80% o bobl sy'n cael diagnosis o ganser y pancreas yn ei dderbyn yn rhy hwyr i gynnig triniaeth allai achub eu bywyd, ac felly mae gofal diwedd oes yn bwysicach fyth.

Ond dim ond 63% o gleifion canser y pancreas yng Nghymru sy'n cael presgripsiwn PERT allai wella safon eu bywydau yn sylweddol, yn ôl Pancreatic Cancer UK.

Disgrifiad,

Y dietegydd Emma Davies sy'n esbonio manteision cyffur PERT i drin canser y pancreas ar Dros Frecwast

"Weithiau, does 'na ddim llawer y gallwn ni gynnig i bobl sy'n cael eu heffeithio gan yr afiechyd i'w helpu i ymdopi'n well gyda'r driniaeth," medd Anna Jewell, cyfarwyddwr cefnogaeth, ymchwil a dylanwadu yr elusen.

"Ond fan hyn mae gennym ni rhywbeth syml iawn.

"Tabled syml sydd ar gael, sydd ddim yn gostus, sy'n gallu gwneud gwahaniaeth sylweddol mewn ansawdd bywyd pobl pan fyddan nhw wedi cael diagnosis canser pancreatig.

"Felly mae'n hanfodol ein bod ni'n rhoi'r tabledi yma i bobl sydd â'r afiechyd a'u rhoi yn gynnar wedi'r diagnosis.

"Does dim problem o ran y gost, mae'n gymharol rhad. O gwmpas £7 y dydd i gael PERT, sef tua chost cinio bob dydd. Felly dyw hynny ddim yn rhwystr.

"Mae'n ymwneud â'r diffyg ymwybyddiaeth bod angen cael y tabledi yma i bobl sydd â chanser y pancreas, ac ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o'r ffaith na fyddan nhw'n cael digon o faeth a methu ag ymdopi â thriniaeth os nad y'n nhw'n cael mynediad i'r tabledi yma."

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Hannah bod PERT wedi rhoi amser ac atgofion i'w theulu cyn marwolaeth Mark

Mae'r feddyginiaeth yn gallu gwneud gwahaniaeth mawr yn ôl Keith Roberts - llawfeddyg y pancreas yn Ysbyty Prifysgol Birmingham ac arweinydd Coleg Brenhinol y Llawfeddygon ar ganser y pancreas.

"Mae'n rhywbeth hynod o syml ac amlwg, ond am rai rhesymau, dyw e ddim yn cael ei wneud yn iawn," meddai.

"Fe wnes i gyhoeddi astudiaeth yn 2018, gyda 1,500 o bobl oedd â chanser pancreatig ac fe wnaethon ni baru hanner y grŵp oedd wedi cael triniaeth PERT, a hanner chafodd ddim.

"Fe wnaethon ni sicrhau bod y grwpiau yr un fath, yr unig wahaniaeth oedd y driniaeth PERT - felly roedd stage y canser, y driniaeth, roedden nhw yr un fath.

"Pan edrychon ni ar y canlyniadau, doedd dim ots beth oedd y senario - os edrychwch chi ar bobl yn cael llawdriniaethau, pobl yn cael cemotherapi, pobl oedd ddim yn cael unrhyw driniaeth - roedd y [gyfradd] goroesi mwy neu lai dwywaith yn fwy hir yn y grŵp a dderbyniodd PERT.

"Mae'n syml iawn. Canser y pancreas, mae e am y canser. Ond i ddod trwy'r driniaeth, mae'n rhaid i chi fod yn gryf.

"Os ydych chi'n dirywio, yn colli'ch cyhyrau, os nad ydych chi'n cael unrhyw ddaioni o'ch bwyd, sut gallwch chi ddod trwy'r driniaeth a sut gallwch chi frwydro'r canser hwn?"

Beth mae'r llywodraeth yn ei ddweud?

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru ei bod yn "disgwyl i fyrddau ac ymddiriedolaethau iechyd ddarparu PERT fel sy'n cael ei gynghori gan NICE".

Ychwanegodd bod y "Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru wedi cytuno ar lwybr cenedlaethol ar gyfer canser, sy'n cynnwys presgripsiwn PERT, ac y dylai pob bwrdd iechyd yng Nghymru ei gyflwyno yn lleol".

"Mae Rhwydwaith Canser Cymru hefyd wedi codi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd cynnig presgripsiwn PERT."

Pynciau cysylltiedig