Pencampwriaeth Rygbi Unedig: Sharks 37-20 Scarlets

  • Cyhoeddwyd
Blade ThomsonFfynhonnell y llun, Rex Features
Disgrifiad o’r llun,

Roedd y sgôr yn gyfartal 6-6 ar yr egwyl yn Durban

Fe lwyddodd y Sharks i drechu'r Scarlets yn y gêm gyntaf ym Mhencampwriaeth Rygbi Unedig i'w chwarae yn Ne Affrica.

Cafodd y cyfnod agoriadol ei chwarae ar gyflymder, a daeth y Scarlets - drwy Sam Costelow a Steff Evans - yn agos iawn i sgorio ceisiau.

Y maswyr Costelow a Curwin Bosch sgoriodd y pwyntiau, gyda dwy gic gosb yr un, i'w gwneud hi'n 6-6 ar yr egwyl.

Rhoddodd Aaron Shingler y Scarlets ar y blaen gyda chais cynnar yn yr ail hanner, cyn i Aphelele Fassi a Bosch groesi i'r tîm cartref.

Wedi cais cosb i'r Sharks aeth yr asgellwr Steff Evans drosodd i'r ymwelwyr cyn i Marius Louw groesi gydag 88 munud ar y cloc i sicrhau pwynt bonws.

Roedd capten De Affrica, Siya Kolisi, ymhlith 10 Springbok oedd yn chwarae i'r Sharks.

Pynciau cysylltiedig