Rhybuddion melyn am law trwm a gwynt 60mya i rannau o Gymru
- Cyhoeddwyd
Mae dau rybudd melyn mewn grym i rannau o Gymru y penwythnos hwn.
Mae glaw trwm a gwynt 60mya yn bosib mewn ardaloedd arfordirol o dde Cymru ddydd Sadwrn yn ôl y Swyddfa Dywydd.
Mae'r rhybudd mewn grym rhwng 13:00 ddydd Sadwrn tan 19:00.
Pen-y-bont, Caerdydd, Sir Gaerfyrddin, Castell-nedd Port Talbot, Casnewydd, Sir Benfro, Rhondda Cynon Taf, Abertawe a Bro Morgannwg yw'r ardaloedd sy'n debygol o gael eu heffeithio.
Ddydd Sul, mae disgwyl i hyrddiadau cryfach o 65mya daro Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Gwynedd, Ynys Môn a Sir Benfro.
Mae'r Swyddfa Dywydd wedi rhybuddio y gallai'r tywydd effeithio ar drafnidiaeth rhwng 00:00 a 12:00 ddydd Sul.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Chwefror 2022
- Cyhoeddwyd18 Chwefror 2022