Miloedd dal heb drydan wedi difrod Storm Eunice

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Cerbydau a chartrefi'n teimlo effaith Storm Eunice

Mae miloedd o gartrefi yn parhau heb drydan yn sgil difrod i gyflenwadau gan Storm Eunice ddydd Gwener.

Yn ôl ffigyrau diweddaraf cwmni Western Power roedd 3,637 o gartrefi yn parhau heb drydan yn y de am 21:30 nos Sadwrn, o'i gymharu â thua 16,000 ben bore.

Dywedodd Scottish Power eu bod wedi llwyddo i adfer cyflenwad trydan ei holl gwsmeriaid yn y gogledd erbyn 12:00 ddydd Sadwrn.

Un o'r rhai hynny sy'n dal heb bŵer yw Rhys ap Tegwyn o Landyfrïog ger Castellnewydd Emlyn.

'Angen gwacáu'r rhewgell'

"Fe aeth y trydan bant 'da ni tua 11:30 bore Gwener ac ry'n ni fod i gael e nôl am 18:00 nos Sadwrn," meddai.

"I ddweud y gwir na'th e ddim amharu rhyw lawer - mae stoc dda o ganhwyllau 'da ni a nwy botel ar gyfer y ffwrn.

"Fe fyddwn i siŵr o fod yn trio gwacáu'r rhewgell heddi.

"Ro'dd e bach o'r sioc i'r merched sydd yn eu harddegau i fod heb wi-fi ond mi aethon nhw at berthnasau dros nos.

"Ar ddiwedd y dydd mae to ar y tŷ a dyna sy'n bwysig - ni'n ddiolchgar am hynny."

Disgrifiad o’r llun,

Dyma oedd yr olygfa yn Llyn Celyn ger Y Bala fore Sadwrn

Dywedodd Alwen Haf Owen o Fronwydd ger Caerfyrddin ei bod hithau hefyd heb drydan a bod hi wedi gorfod mynd i dŷ perthnasau ar gyfer paratoi i fynd i briodas ddydd Sadwrn.

Roedd dros 40,000 heb drydan am gyfnod ddydd Gwener, yn bennaf yn ne a gorllewin Cymru, wrth i wyntoedd o 90mya daro'r wlad.

Mae rhybudd pellach am wyntoedd cryf mewn grym ar gyfer de a chanolbarth Cymru ddydd Sadwrn, ond rhybudd melyn, llai difrifol.

Mae'r rhybudd melyn mewn grym rhwng 06:00 a 18:00, ac fe wnaeth y gwyntoedd gyrraedd 71mya yn Y Mwmbwls yn y prynhawn.

Fore Sadwrn roedd yna eira mewn rhannau o Gymru gan gynnwys yn ardal Trawsfynydd a'r Bala.

Ffynhonnell y llun, Network Rail
Disgrifiad o’r llun,

Daeth y to oddi ar adeilad yng ngorsaf rheilffordd Caerfyrddin

Hefyd mae disgwyl band arall o law i gyrraedd ddydd Sul, ac mae Cyfoeth Naturiol Cymru'n rhybuddio bod llifogydd yn bosib, dolen allanol.

Dywedodd Ioan Williams o Cyfoeth Naturiol Cymru fore Sadwrn bod cael llawer o rybuddion o flaen llaw wedi bod yn fuddiol gan fod hynny wedi helpu i gadw pobl yn ddiogel.

"Dwi'n meddwl fod pobl wedi bod yn gall ac wedi ufuddhau i'r cyngor aros adref.

"Byddwn yn cadw golwg fanwl ar y sefyllfa heddiw - mae'r glaw yn mynd i ddisgyn ar afonydd sy'n llawn dŵr yn barod ac fe allai hynny achosi mwy o rybuddion llifogydd.

"Mae'n hynod bwysig fod pobl yn ofalus ac yn wyliadwrus. Cadwch yn ddiogel bawb."

Mae trafnidiaeth gyhoeddus wedi ailddechrau ar ôl i drenau, bysiau a fferis gael eu canslo ddydd Gwener, ond nid oes gwasanaethau llawn.

Mae Trafnidiaeth Cymru'n annog pobl i chwilio am y cyngor diweddaraf cyn dechrau ar eu taith, gan rybuddio fod gwasanaethau ledled y wlad yn wynebu oedi hir.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd dwy lori wedi troi drosodd ar yr M4 ym Margam

Fe agorodd rhan o'r M4 ger Margam nos Wener wedi i ddwy lôn fod ar gau am oriau ar ôl i lorïau droi drosodd.

Mae'r rhybuddion tywydd diweddaraf ar wefan y Swyddfa Dywydd, dolen allanol, rhybuddion llifogydd ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru, dolen allanol, a'r holl fanylion i deithwyr ar safleoedd Trafnidiaeth Cymru, dolen allanol a Thraffig Cymru, dolen allanol.

Roedd criwiau tân ac achub wedi delio â thros 130 o ddigwyddiadau'n ymwneud â'r tywydd garw ddydd Gwener.

Yng Nghasnewydd fe gawsont eu galw i dŷ oedd wedi ei ddifrodi gan falurion o do siop gyfagos ddaeth i ffwrdd yn y gwynt.

Dywedodd Holly Price sy'n byw ar Heol Christchurch yn y ddinas, iddi glywed "bang enfawr".

"Wrth redeg lan staer weles i fod y to wedi cwympo drwyddo", meddai.

Dywedodd bod ei merch 5 oed yn y tŷ ar y pryd, a bod ei chlywed yn sgrechian yn "dorcalonnus".

"Mae fy merch yn OK, mae hi'n poeni am y gwynt, yn poeni bod y to yn mynd i ddod bant yn nhŷ fy mrawd. Ond 'dyn ni'n OK."

Pynciau cysylltiedig