Teyrngedau i Lyn Lewis Dafis sydd wedi marw yn 61 oed
- Cyhoeddwyd

Roedd Lyn Lewis Dafis yn ddyn ffraeth a galluog
Mae nifer wedi bod yn rhoi teyrnged i Lyn Lewis Dafis sydd wedi marw yn Ysbyty Bronglais, Aberystwyth yn 61 oed.
Roedd Mr Dafis yn ddarlledwr cyson ar Radio Cymru - yn un o gyfranwyr 'Munud i Feddwl' ac yn sylwebydd ar faterion yr Eglwys yng Nghymru ar raglen Bwrw Golwg.
Bu hefyd yn golofnydd i'r cylchgrawn Barn ac yn olygydd cylchgrawn Y Llan - wythnosolyn yr Eglwys yng Nghymru.
Roedd Mr Dafis yn wreiddiol o Fynachlog-ddu yn Sir Benfro ac yn yr ardal honno y cafodd ei addysg gynnar cyn dod i Brifysgol Aberystwyth a graddio yn y Gymraeg.
Wedi hynny aeth i weithio i wasanaeth llyfrgell gyhoeddus Morgannwg Ganol a gwasanaeth llyfrgell Dyfed cyn ymuno â staff y Llyfrgell Genedlaethol am chwarter canrif.
"Fe wnaeth Lyn waith arloesol iawn ym maes digido pan oedd o'n gweithio yn y Llyfrgell Genedlaethol," meddai Richard Owen, cyfaill agos iddo.
"Roedd o'n un o'r rhai a fu'n gyfrifol am ddigido nifer o gasgliadau, megis ffotograffau John Thomas, Lerpwl a chasgliad Geoff Charles, ac wedyn fe aed ymlaen i ddigido cyfnodolion Cymraeg.
"Roedd yn genedlaetholwr pybyr ond fe fydda i yn ei gofio yn bennaf fel dyn amryddawn a hynod alluog. Roedd o'n medru gafael mewn pwnc, deall ei hanfodion a'i feistroli'n sydyn.
"Roedd ganddo hefyd ddawn gyhoeddus ac roedd yn berfformiwr ffraeth a gwreiddiol - fe allai arwain cyfarfod neu lansiad llyfrau yn hwylus iawn ac roedd o'n dda iawn efo pobl."
Mewn neges ar gyfrif Twitter dywedodd Prif Weithredwr a Llyfrgellydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Pedr ap Llwyd, bod Lyn Lewis Dafis wedi bod "yn aelod ffyddlon, galluog a gwerthfawr o weithlu Llyfrgell Genedlaethol Cymru a bydd yn gadael bwlch enfawr ar ei ôl".
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
'Cyfaill i bawb'
Yn 2014 fe aeth Lyn Lewis Dafis am flwyddyn i goleg San Mihangel yn Llandaf ac wedi cwblhau ei gwrs fe fu'n gweinidogaethu yn eglwysi ardal Bro Padarn gan wasanaethu yn bennaf eglwysi Penrhyn-coch a Bont-goch.

'Mae colli Lyn yn ergyd fawr i'r Eglwys yng Nghymru,' medd y Parchedig Enid Morgan
Brynhawn Mercher wrth siarad â Cymru Fyw dywedodd y Parchedig Ganon Andrew Loat o Eglwys Sant Padarn Aberystwyth bod colli Lyn Lewis Dafis yn golled fawr iawn i'r plwyf.
"Roedd e'n gyfaill i bawb, yn ofalus iawn am y plwyfolion beth bynnag eu ffydd neu eu diffyg ffydd.
"Roedd e'n ŵr hynod o ddeallus ac fe fyddai i'n enwedig yn ei gofio am ei hiwmor - roedd pawb yn hoff iawn ohono. Bydd colled ar ei ôl."
"Fe fyddai i'n ei gofio fel un sydd wedi gwneud diwrnod da o waith," meddai'r Parchedig Enid Morgan o Aberystwyth.
"Roedd ei gyfraniad fel darllenydd lleyg yn Eglwys y Santes Fair, Aberystwyth yn un clodiwiw ac fe weithiodd yn galed yn ystod y cyfnod clo gan feistroli'r dechnoleg ar ein rhan ni gyd - cyfraniad amhrisiadwy.
"Roedd Lyn yn fodlon bwrw ati - anghofia i fyth ohono yn cynhyrchu fersiwn canadwy o'r salmau. Roedd modd i ni wedyn lafarganu y salmau - roedd e'n glamp o waith. Welodd y fersiwn ddim golau dydd ond fues i'n defnyddio llawer ohonyn nhw.
"Mae colli Lyn yn ergyd fawr i'r Eglwys yng Nghymru a'r ardal."