Gostyngiad arall yn nifer y di-waith yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
diweithdra
Disgrifiad o’r llun,

Roedd 3% o bobl yn ddiwaith yng Nghymru hyd Ionawr 2022

Mae gostyngiad pellach wedi bod yn lefel diweithdra Cymru, yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Yn ystod y tri mis hyd Ionawr 2022, mae'r data yn dangos fod 45,000 o bobl yn ddi-waith.

O ran canran, y raddfa yng Nghymru yw 3% gyda 3.9% ar draws y Deyrnas Unedig.

O'i gymharu â'r chwarter blaenorol (Awst i Hydref) fe wnaeth diweithdra yng Nghymru ostwng o 11,000 neu 0.7%.

Mae Cymru yn parhau i fod â chanran uwch o bobl sy'n segur yn economaidd o gymharu â gweddill y DU.

Yn ôl y Swyddfa Ystadegau (ONS) mae yna 441,000 o bobl yn segur yn economaidd, canran o 23.2% o'i gymharu â 21.3% yn y DU.

Mae pobl sy'n segur yn economaidd yn cynnwys myfyrwyr, pobl sydd wedi ymddeol a'r rhai sy'n anabl neu â salwch hir-dymor.

Dadansoddiad ein gohebydd busnes, Huw Thomas:

Mae'r farchnad swyddi yng Nghymru wedi bod yn fywiog ers yr haf diwethaf.

Mae cwmnïau recriwtio wedi rhybuddio'n gyson am brinder mewn meysydd allweddol, yn enwedig lletygarwch a gyrwyr HGV.

Ar un adeg roedd gyrwyr mor brin fel eu bod yn cael cynnig mwy o gyflog na chyfreithwyr.

Mae ystadegau diweddaraf yr ONS yn dangos bod y rhai sy'n chwilio am waith wedi gallu llenwi rhai o'r swyddi gwag.

Ond gyda chyfraddau isel tebyg o ddiweithdra ar draws y DU, mae cyflogwyr yn dal i wynebu anhawster i ddenu ymgeiswyr sydd â digon o opsiynau o hyd.

Pynciau cysylltiedig