Pobl ifanc yn poeni am effaith Covid ar eu gyrfa 'am byth'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Person ifanc yn gweithio
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd dros hanner o bobl ifanc eu bod nhw'n fwy pryderus yn sgil y pandemig

Mae yna bryder fod pobl ifanc yn wynebu argyfwng hyder a hapusrwydd o ganlyniad i'r pandemig ac mae nifer yn teimlo na fyddan nhw byth yn dod dros y profiad.

Mae elusen The Prince's Trust yn cynnal arolwg blynyddol o deimladau pobl ifanc, ac maen nhw'n dweud mai dyma'r lefelau uchaf o anobaith maen nhw wedi eu gweld.

Mae Covid wedi taflu ei gysgod dros gymdeithas gyfan ers dwy flynedd ac er bod yna obaith fod y cymylau'n codi, mae yna bryder y byddwn ni'n byw gyda'r effeithiau am beth amser.

Mae'r arolwg gan elusen The Prince's Trust yn awgrymu fod pobl ifanc rhwng 16-25 oed wedi eu heffeithio'n fawr.

Yng Nghymru roedd chwarter y rhai a gafodd eu holi yn teimlo fod y pandemig wedi effeithio ar eu gyrfaoedd am byth.

Roedd mwy na hanner (56%) yn dweud eu bod nhw'n teimlo'u bod nhw wedi chwythu eu plwc, 55% yn casáu eu hunain, bron i hanner wedi gweld problemau iechyd meddwl yn gwaethygu, a dros hanner yn fwy pryderus nag oedden nhw.

'Cael eu dal yn ôl'

Disgrifiad o’r llun,

Mae Emyr Jones yn gweithio i'r Urdd

Un ffactor oedd yn poeni nifer ohonyn nhw oedd gwaith a'r effaith mae gweithio o gartref wedi ei gael ar eu gyrfaoedd.

Mae Emyr Jones sy'n 21 oed ac yn gweithio i'r Urdd yn deall hynny.

"Os o'n i'n teimlo bo' fi ddim yn gwybod shwt i 'neud rhywbeth ond y dylen ni, o'n i ffaelu gofyn yn dawel bach just i gael yr ateb. Hwnna fi'n credu oedd yn effeithio ar yr hyder," meddai.

"Fi yn gallu gweld sut byddai ambell berson wedi suddo, ond 'wi jyst wedi bod yn lwcus gyda'r awyrgylch mae'r Urdd wedi creu yn y gweithle gan gynnig cymorth i bawb newydd yn syth a chadw hynny'n gyson."

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r elfen gymdeithasol o fynd i'r swyddfa yn bwysig i bobl ifanc, medd Catrin Jones

Mae Catrin Jones sy'n gweithio i Fenter Môn yn cytuno nad hwn oedd y cyfnod gorau i ddechrau gyrfa.

"Dwi'n meddwl bod yna rhai pobl lle mae e wedi effeithio ar eu hyder nhw. Mae 'na lot o bobl 'di colli allan ar brofiad gwaith... felly mae 'na dipyn o bobl 'di cael eu dal yn ôl neu ella 'di mynd mewn i swyddi nad oedden nhw'n disgwyl mynd mewn iddyn nhw."

Mae hi'n teimlo fod y pandemig wedi cael mwy o effaith ar bobl sy'n dibynnu ar fynd i'r gwaith er mwyn cymdeithasu.

"Mae'n siŵr bod eu hyder nhw wedi cael ei effeithio'n fawr wrth beidio gweld pobl bob dydd a chael sgyrsiau ella sy'n ddibwys ond sy'n bwysig o ran hyder pobl yn gyffredinol."

Arafu dysgu

Disgrifiad o’r llun,

Mae tîm Catrin Asbury yn ymdrechu i dreulio mwy o amser yn y swyddfa er lles gweithwyr ifanc

Mae rheolwyr yn cytuno hefyd. Mae Catrin Asbury yn gyfarwyddwr adnoddau dynol i gwmni Creo Medical sy'n cynhyrchu peiriannau meddygol.

"Os maen nhw yn y swyddfa chi'n cynnig iddyn nhw - liciech chi fod yn rhan o'r sgwrs yma? Liciech chi gymryd rhan yn y cyfarfod yma?

"Dyw hynny ddim yn digwydd pan maen nhw'n gweithio o gartref ac felly mae hynna'n eu dala nhw nôl, a chi'n gweld bod nhw ddim yn dysgu ar yr un cyflymdra a phan maen nhw'n gweithio yn y swyddfa.

"Ni 'di cael pobl ifanc yn gofyn i ni os allan nhw ddod i'r swyddfa i weithio, ac os allwn ni ddod gyda nhw fel bod nhw'n gallu dysgu wrthon ni. Felly ni 'di symud i sefyllfa lle ni'n treulio rhan o'r amser yn y swyddfa a ni'n cwrdd ar gyfer prosiectau lle mae rhaid i chi weithio gyda'ch gilydd a rhannu syniadau, ac mae hynny'n gweithio'n dda".

'Angen dod at ein gilydd'

Cafodd dros 2,000 o bobl ifanc eu holi ar draws y Deyrnas Unedig a bron i 200 yng Nghymru fel rhan o arolwg sydd wedi bod yn digwydd ers 13 blynedd.

Yn ôl Hannah Jones o Prince's Trust Cymru: "Mae'n frawychus darllen fod pobl ifanc yn teimlo mor anobeithiol am eu dyfodol nhw er 'dan ni'n clywed fod gwaith a chyfleodd gwaith yn cynyddu.

"Mae'n drist iawn bod pobl ifanc yn teimlo fel hyn, ac mae'n bwysig ein bod ni yn chwarae'n rhan i newid canlyniadau'r arolwg yma.

Disgrifiad o’r llun,

Mae modd gwella canlyniadau'r adroddiad, meddai Hannah Jones

"'Dan ni'n gwybod, ddim just o'r adroddiad ond o'n profiad ni gyda phobl ifanc, bod angen i ni ddod allan o'n tai, allan o'n 'stafelloedd rŵan, at ein gilydd er mwyn i ni allu ymateb i'r crisis sydd yn wynebu pobl ifanc.

"Mae angen i ni atgoffa ein hunain fod iechyd meddwl mor bwysig. Does dim gobaith i chi 'neud eich gorau os nad y'ch chi'n teimlo ar eich gorau, felly mae'n bwysig ein bod ni'n cymryd y camau iawn nawr."

Wedi dwy flynedd anodd, mae Prince's Trust Cymru nawr yn gobeithio y bydd modd cynnig mwy o gymorth wyneb yn wyneb i bobl ifanc.

"Mae'r gwaith yma 'di bod yn anodd iawn dros y pandemig oherwydd 'dan ni 'di methu cyrraedd y bobl ifanc mor hawdd. Mae hi 'di bod yn haws iddyn nhw ddweud 'na' a throi'r cyfrifiadur off.

"Mae'n anoddach [gwrthod] pan mae rhywun wyneb yn wyneb yn dweud, 'dw i yma i helpu, ti'n haeddu gwell'.

"Dw i'n obeithiol, drwy ddod nôl at ein gilydd... ein bod ni'n gallu gwella canlyniadau'r adroddiad yma."