Page yn cyhoeddi ei garfan i wynebu Awstria
- Cyhoeddwyd
Mae Rob Page wedi cyhoeddi ei garfan o 26 i wynebu Awstria yn Stadiwm Dinas Caerdydd yng ngemau ail-gyfle Cwpan y Byd ar 24 Mawrth.
Mae'r garfan yn cynnwys Gareth Bale ac Aaron Ramsey, ond bydd y golgeidwad Danny Ward a'r ymosodwr Tyler Roberts ddim ar gael oherwydd anafiadau.
Un arall amlwg sydd allan yw Keiffer Moore wedi iddo yntau dorri ei droed ym mis Chwefror a gorfod cael llawdriniaeth.
Bydd Rabbi Matondo yn dychwelyd i'r garfan, ac mae yna le i'r golgeidwad Tom King o Salford City - yr unig chwaraewr heb gap i gael ei ddewis.
Nod Cymru yw cyrraedd rowndiau terfynol Cwpan y Byd am y tro cyntaf ers 1958.
Pe bai Cymru yn curo Awstria, fe fyddant yn wynebu un ai Yr Alban neu Wcráin yn y cymal olaf. Mae'r gêm rhwng y ddau wedi'i gohirio oherwydd y rhyfel yn Wcráin.
Cymru: Wayne Hennessey (Burnley), Adam Davies (Stoke), Tom King (Salford City);
Ben Davies (Tottenham), Joe Rodon (Tottenham), Ben Cabango (Abertawe), Ethan Ampadu (Venezia- ar fenthyg o Chelsea), Chris Mepham(Bournemouth), Neco Williams (Fulham- ar fenthyg o Lerpwl), Rhys Norrington-Davies (Sheffield United), Connor Roberts (Burnley), Chris Gunter (Charlton);
Dylan Levitt (Dundee United-ar fenthyg o Manchester United), Aaron Ramsey (Rangers- ar fenthyg o Juventus), Rubin Colwill (Caerdydd), Joe Morrell (Portsmouth), Will Vaulks (Caerdydd), Joe Allen (Stoke City), Harry Wilson (Fulham), Jonny Williams (Swindon);
Gareth Bale (Real Madrid), Brennan Johnson (Nottingham Forest), Mark Harris (Caerdydd), Daniel James (Leeds United), Sorba Thomas (Huddersfield), Rabbi Matondo (Cercle Brugge- ar fenthyg o Schalke 04).
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Mawrth 2022
- Cyhoeddwyd17 Ionawr 2022
- Cyhoeddwyd26 Tachwedd 2021