Gêm ail gyfle Cymru'n erbyn Awstria i fynd yn ei blaen

  • Cyhoeddwyd
cymru - ffindirFfynhonnell y llun, GEOFF CADDICK

Bydd gêm ail gyfle Cymru yn mynd yn ei blaen yn erbyn Awstria fis yma yn dilyn gohirio'r gêm gynderfynol arall rhwng Yr Alban ac Wcráin.

Mewn ymgais i sicrhau lle yng Nghwpan y Byd, bydd tîm Robert Page yn chware'n erbyn Awstria yn rownd gynderfynol y gemau ail gyfle ar 24 Mawrth.

Ond yn dilyn ymosodiad Rwsia, mae FIFA bellach wedi cadarnhau na fydd gêm Yr Alban ac Wcráin yn cael ei chwarae fis yma yn dilyn cais gan Gymdeithas Bêl-droed Wcráin.

Bydd y gêm honno, yn ogystal â'r rownd derfynol, bellach yn cael eu chwarae yn ystod y ffenestr gemau rhyngwladol nesaf ym Mehefin.

Felly, os yn llwyddiannus yn erbyn Awstria fis yma, bydd Cymru'n chwarae enillwyr y gêm arall ar ddyddiad, sydd eto i'w bennu, yng Nghaerdydd ym mis Mehefin.

Dywedodd Cymdeithas Bêl-Droed Cymru y bydd tocynnau sydd wedi eu prynu ar gyfer y gêm honno yn ddilys ar gyfer mis Mehefin.

Mewn datganiad, dywedodd Cymdeithas Bêl-Droed Cymru ei bod yn "sefyll mewn undod gydag Wcráin" a'i bod yn "condemnio'r defnydd o rym a'r erchyllterau gan Rwsia".

Ychwanegodd y gymdeithas y bydd yn rhannu rhagor o fanylion am y ffenestr ryngwladol fis Mawrth a Mehefin pan fydd y wybodaeth ar gael.

Dywedodd FIFA bod posibilrwydd y gallai gemau eraill gael eu trefnu ar gyfer timau yn ffenestr mis Mawrth ac y bydd rhagor o fanylion i ddilyn.