Canslo cardiau melyn cyn gemau ail gyfle Cwpan y Byd
- Cyhoeddwyd
![Bale, Ramsey ac Allen](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/17574/production/_122740659_gettyimages-1183454940.jpg)
Roedd saith o chwaraewyr Cymru un cerdyn melyn o golli'r rownd derfynol pe bai Cymru'n cyrraedd yno
Mae FIFA wedi penderfynu canslo'r cardiau melyn oedd gan chwaraewyr rhyngwladol cyn gemau ail gyfle Cwpan y Byd Qatar ym mis Mawrth.
Roedd saith o chwaraewyr Cymru mewn perygl o golli rownd derfynol y gemau ail gyfle pe bydden nhw wedi cael cerdyn melyn a Chymru'n ennill yn y rownd gynderfynol.
Y chwaraewyr hynny oedd Aaron Ramsey, Chris Gunter, Harry Wilson, James Lawrence, Joe Allen, Kieffer Moore a Sorba Thomas.
Dywedodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru fod FIFA wedi penderfynu canslo'r cardiau melyn yn dilyn cais gan y corff sy'n gyfrifol am bêl-droed Ewropeaidd, UEFA.
Bydd y gemau tyngedfennol i gyrraedd Cwpan y Byd yn Qatar yn cael eu cynnal ar ddydd Iau, 24 Mawrth a dydd Mawrth, 29 Mawrth.
Pe bai Cymru'n llwyddo i drechu Awstria yn y rownd gynderfynol yng Nghaerdydd, fe fyddai un ai'r Alban neu Wcrain yn cael eu croesawu i'r brifddinas ar gyfer y rownd derfynol.
![Graffeg](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/624/cpsprodpb/D433/production/_121832345_mediaitem121832344.jpg)
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Tachwedd 2021
- Cyhoeddwyd17 Tachwedd 2021
- Cyhoeddwyd17 Tachwedd 2021