Morlyn Mostyn yn hollti barn yn y gogledd-ddwyrain
- Cyhoeddwyd
Fyddai adeiladu morlyn llanw cyntaf Cymru ar hyd rhan o aber Afon Dyfrdwy yn Sir y Fflint yn gam allweddol tuag at ddyfodol mwy "gwyrdd" wrth iddo gynhyrchu ynni trwy ffynonellau dibynadwy ac adnewyddadwy?
Neu a fyddai'n drychineb amgylcheddol allai arwain at ddinistrio gwarchodfa natur sy'n gartref i nifer o rywogaethau o adar?
Wel, mae'n dibynnu gyda phwy ydych chi'n trafod y syniad.
'Ynni gogledd Cymru'
I'r rheiny sy'n cefnogi'r cynigion am y lagŵn llanw gwerth £600m, aber Afon Dyfrdwy ydy'r lleoliad perffaith ar gyfer cynhyrchu digon o drydan i tua 82,000 o gartrefi.
Y syniad yw adeiladu wal 6.7 cilometr o hyd er mwyn creu'r morlyn, fyddai bron i filltir o'r arfordir rhwng Porthladd Mostyn a goleudy Y Parlwr Du.
Byddai tyrbinau'n cael eu hadeiladu yn y wal o dan y dŵr, gyda'r llanw yn cynhyrchu 300 awr gigawat o drydan bob blwyddyn. Gobaith y datblygwyr yw y bydd y gwaith wedi'i gwblhau erbyn 2027.
"Fe fydd ar ein stepen drws yng ngogledd Cymru - ynni gogledd Cymru fyddai hwn," meddai Jim O'Toole, rheolwr-gyfarwyddwr Porthladd Mostyn a'i is-gwmni Mostyn SeaPower, sydd y tu ôl i'r cynllun.
Ond mae gwrthwynebwyr yn dweud fod aber Afon Dyfrdwy yn lleoliad sy'n rhy bwysig i fywyd gwyllt ar gyfer prosiect o'r fath, gydag ystod eang o adar, pysgod a mamaliaid yn ffynnu yno.
"Mae aber Afon Dyfrdwy yn un o'r safleoedd mwyaf gwarchodedig yn y byd," meddai Adrian Lloyd Jones o Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru - un o nifer o sefydliadau sy'n rhan o Grŵp Cadwraeth Aber Afon Dyfrdwy.
"Mae'n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, mae'n Ardal Gadwraeth Arbennig - y lefel uchaf o ran gwarchod lleoliadau yn Ewrop." meddai.
"Mae hefyd yn Ardal Warchodedig Arbennig, dan y Cyfarwyddyd Adar ac yn Safle Ramsar - dynodiad rhyngwladol ar gyfer gwlyptiroedd."
Mae Mostyn SeaPower nawr ar fin cwblhau'r gwaith ar ddyluniad a chostau'r cynllun, fyddai, medden nhw, yn creu 300 o swyddi adeiladu a 35 swydd yn ystod y 100 mlynedd y byddai'n weithredol.
Ond mae'r cwmni hefyd yn pwysleisio eu bod wedi trafod gyda Chyfoeth Naturiol Cymru (CNC) o'r dechrau, ac maen nhw wrthi'n cynnal ail adolygiad ecolegol o'r safle ar hyn o bryd.
"Mae'n iawn fod CNC yn gofyn i ni wneud y pethau hyn, ac ry'n ni'n credu, o'r hyn ry'n ni'n gwybod eisoes, na fydd effaith sylweddol ar fywyd gwyllt," meddai Mr O'Toole.
Ychwanegodd hefyd y byddai'r lagŵn yn amddiffynfa ychwanegol yn erbyn llifogydd yn yr ardal.
'Pryderon mawr'
Ond dydy Mr Jones ddim wedi'i argyhoeddi y gall astudiaethau amgylcheddol asesu'r effaith y byddai cynllun mor fawr yn ei gael ar fywyd gwyllt.
"Mae gennym bryderon mawr am y datblygiad - bydd rhoi rhywbeth mor fawr mewn cynefin mor ddeinamig yn cael effeithiau fydd yn anodd iawn i'w rhagweld," meddai.
Does dim dadlau fod angen canfod mwy o ffyrdd o greu ynni adnewyddadwy, a phe bai'r cynllun yn mynd yn ei flaen fe allai fod yn hwb mawr i economi'r gogledd, yn ôl Dr Edward Thomas Jones, darlithydd mewn economeg ym Mhrifysgol Bangor.
Ychwanegodd y byddai hefyd yn rhoi "sicrwydd ynni" i'r ardal, sydd wedi profi'n bwysig yn sgil y galw am ynni oherwydd y sancsiynau ar Rwsia ar hyn o bryd.
"Hefyd, y math o ynni sy'n cael ei greu - mae'n ffynhonnell adnewyddadwy, a bydd hynny'n ddeniadol iawn i lawer o gwmnïau, fyddai efallai eisiau sefydlu eu hunain yng ngogledd Cymru i wneud defnydd o'r ynni hynny," meddai.
'Llefydd gwell nac aber Afon Dyfrdwy'
Er yn cydnabod fod angen cynhyrchu mwy o ynni adnewyddadwy, dydy Adrian Lloyd Jones ddim yn credu mai'r cynllun yma yw'r ateb.
"Rwy'n credu ei bod yn bwysig fod gennym ni'r datblygiad cywir yn y lle cywir, ac rwy'n credu fod llefydd gwell i wneud datblygiad fel hwn nac ar aber Afon Dyfrdwy," meddai.
Mae'r datblygwyr yn gobeithio cwblhau'r adroddiadau amgylcheddol erbyn diwedd y flwyddyn, ac felly'n bwriadu cyflwyno'r cais cynllunio ffurfiol y flwyddyn nesaf.
"Gyda'r ffordd y mae'r byd ar y funud, gyda thrydan ac ynni adnewyddadwy, rwy'n credu mai nawr yw'r amser," meddai Jim O'Toole.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Mawrth 2022
- Cyhoeddwyd27 Ionawr 2022
- Cyhoeddwyd25 Mehefin 2018