Poeni fod pont sy'n 'ddolen gyswllt hanfodol' ynghau ers 2019

  • Cyhoeddwyd
Pont
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r bont, sy'n cysylltu Clwb Rygbi Faerdref gyda'u caeau chwarae, ar gau ers 2019

Mae galwadau am ailagor pont yn Abertawe sydd wedi bod ar gau ers 2019.

Caewyd y bont yng Nghlydach gan Dŵr Cymru yn dilyn arolwg annibynnol a ddangosodd nad oedd yn ddiogel i gerddwyr.

Ond gyda'r bont yn arfer cysylltu Clwb Rygbi Faerdref gyda'u caeau chwarae, mae'r clwb yn honni fod nifer y cefnogwyr sy'n dod i wylio'u gemau wedi disgyn yn sylweddol.

O ganlyniad, dywedodd aelodau wrth Newyddion S4C eu bod nawr yn poeni am ddyfodol y clwb.

Mewn ymateb mae Dŵr Cymru'n dweud fod cyfarfod wedi'i gynnal yn ddiweddar gyda'r clwb i drafod yr heriau a'r camau nesaf.

Pryder am lifogydd

Mae'r Aelod Senedd dros Orllewin De Cymru, Tom Giffard, yn poeni am yr effaith amgylcheddol hefyd.

Dywedodd fod gweddillion o'r afon yn casglu o amgylch y bont, a oedd arfer yn cael ei glanhau gan aelodau'r clwb rygbi.

Ond ers i'r bont gau, does neb yn clirio'r llanast, ac felly mae pobl leol yn poeni y gallai hyn arwain at lifogydd.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd David Waghorn ei fod yn "teimlo fel bod ni wedi cael ein gadael i lawr"

Yn ôl llywydd Clwb Rygbi Faerdref, David Waghorn, mae'r clwb yn un sy'n gwasanaethu'r holl gymuned, ond ers i'r bont gau, dyw hynny ddim yn digwydd mwyach.

Ers i'r bont gau, mae'r clwb wedi creu llwybr newydd sydd dros filltir yn bellach o'u hystafelloedd newid.

Mae yna bryderon fod y ffordd newydd yn anniogel, gan fod rhaid cerdded i lawr banc serth i gyrraedd y caeau.

"Mae'r bont yn ddolen gyswllt hanfodol rhwng y clwb a'r meysydd chwarae," meddai Mr Waghorn.

"Mae'r ffordd newydd yn gwbl anaddas i'r oedrannus, yr anabl a mamau ifanc sy'n gwthio buggies. Mae'n golygu cerdded lan y gamlas, dros heb bont reilffordd a lawr bancyn serth.

"Mae 'di effeithio'r clwb yn sylweddol i ddweud y gwir."

Disgrifiad o’r llun,

Mae yna bryderon fod y llwybr newydd yn anniogel, gan fod rhaid cerdded i lawr banc serth i gyrraedd y caeau

Ychwanegodd: "Dydy pobl ddim yn dod rhagor oherwydd yr anhawster o fynd y ffordd newydd, a ni 'di colli lot o bobl o'r gymuned - yr oedrannus a mamau ifanc - a ma' rhai yn gyrru ceir rownd drwy'r hen hewl o Ynys Tawe, ond yn mynd yn syth adref wedyn felly mae e'n gostus yn ariannol i'r clwb hefyd.

"Fe ddatblygwyd y caeau ym 1984, ac ers hynny mae'r bont wedi cael ei ddefnyddio bron bob dydd o'r wythnos.

"Ni'n glwb cymunedol. Mae'n ffordd o gysylltu'r gymuned ag ochr arall yr afon. Cyn i'r bont cau roedd plant ysgol yn defnyddio'r caeau, ond dyw hynny ddim yn digwydd yn rhagor.

"Ni'n teimlo fel bod ni wedi cael ein gadael i lawr. Motto Dŵr Cymru yw 'Dros Gymru nid dros elw', a ni'n gobeithio bydd Dŵr Cymru yn gallu gweithio o fewn ysbryd y motto hynny er lles y gymuned yn gyfan."

'Effaith fawr'

Dywedodd Gareth Richards o Gyngor Cymuned Clydach fod cau'r bont wedi "cael effaith fawr ar ddilyniant y clwb rygbi ac ar y gymuned".

"Mae pobl 'di bod yn croesi'r bont 'ma am 100 mlynedd. Oedd glowyr arfer croesi'r bont i fynd i'r pyllau glo. Mae'n llwybr cyfarwydd i bawb, a ni yn gweld eisiau fe.

"Mae'n hen bryd i Dŵr Cymru, un o'r cwmnïau mwya' yng Nghymru, gefnogi'r clwb."

Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl yr Aelod Senedd, Tom Giffard, mae risg y gallai'r bont arwain at lifogydd tra'i bod ynghau

Mae Tom Giffard, Aelod o'r Senedd dros Orllewin De Cymru, yn galw ar Dŵr Cymru i asesu'r effaith mae cau'r bont yn ei gael ar yr amgylchedd.

"Mae hwn yn cael effaith enfawr ar y gymuned. Mae pobl ar draws y gymuned yng Nghlydach yn defnyddio'r bont i groesi o un rhan o Afon Tawe i'r llall.

"Mae hwn yn cael effaith amgylcheddol hefyd.

"Mae pobl yn y gymuned wedi siarad gyda fi, ac maen nhw'n credu oherwydd bod y bont wedi'i chau, mae llawer o debris ar y bont sydd ddim yn cael ei chlirio, felly mae hwnna'n risg gall arwain at lifogydd hefyd."

Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Dŵr Cymru, gyda'r bont ynghau ers 2019, amddiffyn diogelwch y cyhoedd yw eu "blaenoriaeth bennaf"

Dywedodd un rhiant sydd â phlant sy'n chwarae i Glwb Rygbi Faerdref, Dafydd Thomas, nad yw'r plant yn gallu cymdeithasu yn hawdd ar ôl gemau bellach.

"Mae'r sefyllfa yn sefyllfa ofidus i'r clwb. Un o rinweddau unrhyw glwb rygbi yw'r gymuned," meddai.

"Dydy cael anhawster i ddod i gefnogi ddim yn helpu'r clwb. Hefyd, dydy'r llwybr gwahanol i gyrraedd y caeau ddim yn mynd yn agos i'r clwb ei hun.

"So mae'r elfen gymunedol o allu croesawu ymwelwyr yn ôl i'r clwb yn broblem. Mae'r clwb yn dioddef yn ariannol."

'Trafod y sialensiau a'r camau nesaf'

Mewn datganiad, fe ddywedodd Dŵr Cymru mai amddiffyn diogelwch y cyhoedd yw eu "blaenoriaeth bennaf".

"Ataliwyd mynediad dros y bont am nad yw'n ddiogel i gerddwyr ei ddefnyddio. Gwnaed hyn yn dilyn arolwg gan beiriannydd annibynnol a ffeindiodd bod cyrydiad wedi cyfaddawdu strwythur y bont," meddai llefarydd.

"Rydyn ni'n deall ac yn uniaethu â safbwynt Clwb Rygbi Faerdre a buddiannau'r cyhoedd o ran mynediad dros y bont. Cawsom gyfarfod â chadeirydd y clwb yn ddiweddar i drafod y sialensiau a'r camau nesaf.

"Cytunwyd ar y camau y byddwn yn eu cymryd ac er eu bod nhw'n debygol o gymryd sawl mis i'w cwblhau, byddwn ni'n cadw mewn cysylltiad â'r clwb ac yn rhannu unrhyw ddatblygiadau â nhw.

"Gallwn hefyd sicrhau'r gymuned ein bod yn gwirio'r bont yn rheolaidd i sicrhau nad yw unrhyw falurion naturiol a allai gronni yn cael effaith ar yr amgylchedd lleol."

Pynciau cysylltiedig