Y Bencampwriaeth: Caerdydd 2-1 Stoke City

  • Cyhoeddwyd
Caerdydd yn dathlu gôl Jordan HugillFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Caerdydd yn dathlu gôl Jordan Hugill, a drodd allan i fod yr un tyngedfennol

Mae'r Adar Gleision wedi sicrhau triphwynt arall diolch i ddwy gôl yn yr hanner cyntaf o flaen torf gartref.

Daeth Caerdydd i mewn i'r gêm wedi ennill saith pwynt allan o naw tra doedd Stoke heb gael buddugoliaeth mewn saith gêm.

Er hynny, Stoke aeth ar y blaen gyda'u cyfle cyntaf, gyda Lewis Baker yn hyrddio'r bêl y tu hwnt i Alex Smithies gyda 23 munud ar y cloc.

Ond daeth Caerdydd yn gyfartal cyn yr egwyl diolch i ergyd Tommy Doyle.

Roedd gwell i ddod wedi 43 munud gyda Jordan Hugill yn rhoi'r Adar Gleision ar y blaen, gyda llawer o'r diolch i Cody Drameh yn pwyso ar Taylor Harwood-Bellis i golli meddiant.

Er i Stoke bwyso yn yr ail hanner, Caerdydd gafodd y cyfleon gorau. Roedd y ddwy gôl yn ddigon i sicrhau'r triphwynt.