Pencampwriaeth Rygbi Unedig: Bulls 57-12 Scarlets
- Cyhoeddwyd
Fe gollodd y Scarlets yn drwm yn erbyn y Bulls yn Pretoria nos Wener.
Roedd y tîm cartref yn fygythiad o'r cychwyn cyntaf wrth iddyn nhw sicrhau cais o fewn munud yn stadiwm Loftus Versfeld ac fe fu bron iddynt sicrhau cais arall o fewn tair munud ond oherwydd bod y bas ymlaen chafodd e ddim mo'i ganiatáu.
Ond doedd dim rhaid iddyn nhw oedi llawer yn hwy cyn sicrhau mwy o geisiau - wedi hanner awr o chwarae roedd y Bulls wedi sgorio pum cais a'r sgôr yn 31-0.
Ymhen tair munud roedd yna gais i'r Scarlets gan Sione Kalamafoni ac erbyn hanner amser roedd y sgôr yn 31-7.
Ar ddechrau'r ail hanner cerdyn melyn i Ioan Nicholas am chwarae peryglus a chweched cais i'r Bulls wedi rhyng-gipiad llwyddiannus (38-7).
Ond nid dyna ddiwedd y ceisiau - wedi 52 munud cais hyd cae i'r Bulls ac yn fuan dau gais arall (57-7).
Roedd yna gais cysur i'r Scarlets, serch hynny, ar ddiwedd y gêm wrth i Rob Evans groesi - ac felly y sgôr terfynol oedd 57-12.