Y Bencampwriaeth: Abertawe 0-0 Birmingham City

  • Cyhoeddwyd
Cefnwr Birmingham, Maxime Colin, dan bwysau gan Michael ObafemiFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Cefnwr Birmingham, Maxime Colin, dan bwysau gan Michael Obafemi

Mewn gêm lle welodd yr Elyrch y mwyaf o'r bêl, Birmingham greodd y cyfleon gorau.

Gyda'r ddau dîm yn gorfod bodloni ar bwynt, y gleision fydd mwyaf siomedig gyda'r canlyniad.

Methodd Birmingham ddau gyfle euraidd yn yr hanner cyntaf gyda Juninho Bacuna a Tahith Chong ill dau yn methu â tharo'r targed.

Peniodd Maxime Colin yn erbyn y trawst yn yr ail hanner, mewn cyfle arall i'r ymwelwyr.

Joel Piroe gafodd ymdrechion gorau yr Elyrch, ond mewn gwirionedd doedden nhw byth yn edrych fel sgorio.

Mae'r canlyniad yn golygu fod Birmingham yn codi un safle i 19eg, tra bod Abertawe'n llithro un lle i 16eg - dau bwynt yn fwy na Caerdydd o flaen y gêm ddarbi mewn pythefnos.