Galw ar bobl i barhau i ynysu ar ôl diddymu'r rheolau
- Cyhoeddwyd
Fe ddylai pobl barhau i hunan-ynysu os oes ganddyn nhw symptomau Covid a gwisgo mygydau hyd yn oed pan fydd y gofynion cyfreithiol i wneud hynny yn dod i ben, yn ôl arbenigwr ar iechyd cyhoeddus.
Mae disgwyl i'r cyfreithiau ar wisgo mygydau a hunan-ynysu ddod i ben ddiwedd y mis.
Ond dywedodd Dr Giri Shankar o Iechyd Cyhoeddus Cymru y dylai pobl barhau i ynysu os oes ganddyn nhw Covid er mwyn gwarchod eraill.
Ychwanegodd, er bod yr "angen cyfreithiol" i hunan-ynysu a gwisgo mwgwd yn cael ei ddiddymu, nad yw'r "angen meddygol" i wneud hynny yn dod i ben hefyd.
'Cyfrifoldeb ar unigolion'
Mae'r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi dweud hefyd y bydd pobl yn cael eu cynghori i wisgo mygydau pan fydd yr holl reolau Covid yn cael eu diddymu.
Mae nifer yr heintiadau yn parhau ar gynnydd yng Nghymru, yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol, gydag amcangyfrif fod un ym mhob 25 person â Covid yn yr wythnos ddiweddaraf.
Dywedodd Dr Shankar y bydd "cyfrifoldeb yn symud i unigolion" er mwyn gwarchod ein gilydd.
"Ar y lleiaf, ry'n ni'n credu y dylai amryw o'r mesurau barhau, fel golchi dwylo, derbyn brechiadau, gwisgo mygydau, a phwysicaf oll, pan mae gennych chi symptomau, fe ddylech chi wneud prawf," meddai.
"Os oes gennych chi symptomau neu'n cael prawf positif, fe ddylech chi barhau i hunan-ynysu, er nad oes gorfodaeth gyfreithiol i wneud hynny."
'Newid diwylliant'
Ychwanegodd Dr Shankar fod "angen newid diwylliant" o ran pobl yn mynd i'r gwaith pan eu bod yn wael.
"Mae hynny'n rhywbeth ry'n ni'n gweld yn eithaf aml yn y GIG a gofal cymdeithasol hefyd - pobl yn teimlo fod yn rhaid iddyn nhw fod yn y gwaith er bod ganddyn nhw symptomau," meddai.
Bydd y gallu i bawb gael profion llif unffordd am ddim yn dod i ben fis Mehefin yng Nghymru.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Mawrth 2022
- Cyhoeddwyd17 Mawrth 2022
- Cyhoeddwyd6 Mawrth 2022