Caerdydd: Cyhuddo menyw ar ôl i ddyn gael ei drywanu
- Cyhoeddwyd
![Ffordd Plymouth Wood](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/24AB/production/_123778390_newproject-46.png)
Galwyd yr heddlu a'r ambiwlans i Ffordd Plymouth Wood yn ystod oriau mân fore Sul
Mae menyw wedi ymddangos yn y llys ar ôl i ddyn gael ei drywanu yng Nghaerdydd.
Galwyd yr heddlu toc cyn 05:00 fore Sul i'r digwyddiad mewn eiddo ar Ffordd Plymouth Wood yn ardal Trelái o'r brifddinas.
Cafodd dyn 32 oed ei gludo i Ysbyty Athrofaol Cymru, ac mae'n parhau i fod yno mewn cyflwr sefydlog.
Aeth Samantha Harries, 29, gerbron Llys Ynadon Caerdydd ddydd Mawrth wedi'i chyhuddo o fwriad i wneud niwed corfforol difrifol.
Bydd hi'n ymddangos yn Llys y Goron y brifddinas ar 19 Ebrill.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Mawrth 2022