Y Gynghrair Genedlaethol: Wrecsam 3-1 Halifax
- Cyhoeddwyd
Yn un o'u perfformiadau gorau'r tymor hwn roedd yna fuddugoliaeth i Wrecsam ar y Cae Ras yn erbyn y tîm sy'n drydydd yn y Gynghrair Genedlaethol.
Ar ôl pwysau cynnar gan y tîm cartref fe wnaeth Tyrrell Warren lawio'r bêl yn dilyn ergyd Callum McFadzean.
Cic o'r smotyn pwerus gan Paul Mullin roddodd Wrecsam ar y blaen.
Daeth Mullin yn agos i sgorio ail gôl gyda Sam Johnson yn arbed, ond roedd Ollie Palmer wrth law i roi'r bêl yng nghefn y rhwyd.
James Jones sicrhaodd y pwyntiau gyda gôl yn yr ail hanner, cyn i Zak Dearnley sgorio gôl gysur i'r ymwelwyr.
Mae Wrecsam yn aros yn bedwerydd ond dim ond un pwynt y tu ôl i Chesterfield a Halifax.