Y steilydd Elin Mai a'r pleser o 'weld y trawsnewidiad yn digwydd'

  • Cyhoeddwyd
Elin MaiFfynhonnell y llun, Elin Mai

"Dwi'n cofio rhywun yn gofyn wrthaf i unwaith, 'Beth oedd plan B 'ta? Beth oeddech chdi'n mynd i neud os doedd o ddim yn gweithio?' A 'nes i jysd sbio arnyn nhw a meddwl, 'O, do'n i'm efo plan B!'"

Yn ffodus i'r steilydd Elin Mai o Ynys Môn, doedd dim angen plan B gan fod ei chwmni steilio Style Doctors wedi mynd o nerth i nerth ers iddi ei sefydlu yn 2004 ac erbyn heddiw mae ganddi swyddfeydd yn Llundain, Efrog Newydd, Miami, Los Angeles a Dubai.

Bu Elin yn siarad efo Beti George ar Beti a'i Phobl ar Radio Cymru am ei gyrfa a'i llwyddiant.

Mae'n anodd credu bod Style Doctors wedi tyfu ers 2004 i be' mae o heddiw ac wrth gwrs bod o yn y gwledydd gwahanol 'ma i gyd. Dwi'm yn meddwl, os fyswn i'n sbio yn ôl, fyswn i byth 'di meddwl bod o mynd i fod mor llwyddiannus ag ydi o.

Dwi'n gwybod achos bod fi wedi steilio pobl am flynyddoedd a blynyddoedd y gwahaniaeth mae o'n gwneud i fywydau pobl.

Mae 'na gymaint fwy tu ôl i'r ffordd y mae dillad yn gwneud i bobl deimlo hefyd.

Ffynhonnell y llun, Elin Mai

Pan 'da chi efo rhywun a maen nhw'n dod ato chi am sesiwn steilio maen nhw yn rhoi'r trust i gyd ynddo chi felly does na'm barriers yna.

Ac wedyn unwaith maen nhw'n dechrau gweld eu hunain yn y gwisgoedd newydd 'ma - maen nhw bron iawn yn gweld fersiwn gwahanol ohonyn nhw eu hunain 'di nhw erioed 'di gweld o'r blaen. Felly, 'da chi'n gweld y trawsnewidiad yn digwydd o flaen eich llygaid chi.

Ar ôl gorffen fy ngradd ym Manceinion o'n i'n steilio pobl - ffrindiau, teulu - ac adeg hynny dim ond celebrity stylists oedd o gwmpas ac 'oedd y gwasanaeth dim ond ar gyfer pobl oedd efo lot o bres.

Ac o'n i'n gwybod achos o'n i 'di gweithio efo gymaint o bobol - dim jyst problem pobl cyfoethog ydi peidio gallu dewis dillad neu gwybod be' sy'n siwtio nhw ond mae o'n rywbeth mae pawb yn gallu dysgu ohono fo.

Mi oedd 'na gap anferth yn y farchnad ar gyfer y gwasanaeth a dyna un o'r rhesymau fwya' nes i benderfynu dechrau Style Doctors.

Cwsmeriaid

Ar gyfer pobl pob dydd - dydi pawb ddim yn gallu fforddio'r gwasanaeth felly pobl sydd efo ychydig bach o disposable income ond sy' ddim hefo'r amser na syniad sut i steilio ar gyfer eu cyrff nhw, ar gyfer eu bywydau, a ddim yn gwybod pa liw i roi at ei gilydd, pa frands oedd yn siwtio nhw hefyd.

Felly safio amser a safio pres i bobl oedd dau o'r goals hefyd ac wrth gwrs trio newid eu bywydau nhw tra o'n i'n gwneud hynny.

Balans

Yn y 10 mlynedd cynta' ar ôl i mi gychwyn Style Doctors 'nes i'm cymryd diwrnod i ffwrdd felly oedd o'n all-consuming. Am rhai wythnosau 'swn i'n codi am bedwar o'r gloch y bore, dreifio i rhywle fatha Leeds, gweithio diwrnod llawn efo cwsmer, nôl y noson honno i Lundain, ac wedyn Bristol y diwrnod wedyn, a gwneud yr un peth drosodd a drosodd.

Pan 'da chi'n adeiladu cwmni fedrwch chi'm dweud 'na' i'r swyddi 'ma. Os oedd 'na rhywun isho sesiwn steil mewn lle oedd yn bell - o'n i jyst yn deud 'ia' achos 'oedd rhaid i mi weld y cwsmeriaid 'ma.

Cwsmer enwog

O'n i'n steilio Malala Yousafzai (y ferch o Bakistan sydd wedi ennill gwobr Nobel) ar gyfer gwisgoedd bob dydd yn coleg, ar gyfer y World Economic Forum felly mae llun ohoni hi a Justin Trudeau efo'i gilydd a fi oedd wedi steilio hi yn y wisg oedd hi'n gwisgo. 'Nes i gael lot o hwyl.

Ffynhonnell y llun, Elin Mai

Effaith y pandemig

Doedd na ddim plan B felly 'oedd rhaid sticio i plan A a gwneud i hwnna weithio felly yng nghanol y pandemig wnaethon ni ddal i gysylltu efo'n cwsmeriaid, oedden ni'n rhoi webinars am ddim ar y we, a wnaethon ni newid rhai o'n gwasanaethau home visits lle fysa ni'n mynd i dŷ rhywun fel arfer a sbïo drwy eu wardrob nhw, oedden ni'n gallu neud hynny ar y we dros video call neu whatsapp.

Felly 'oedd 'na rhai pethau oedden ni'n gallu newid i wneud iddyn nhw weithio ond y munud oedd y siopau i gyd yn agor eto roedd Style Doctors yn gallu agor. Bydd rhyw dair blynedd o leia i ddod yn ôl i lle oedd y cwmni cyn y pandemig.

Teulu

Dwi 'di gweld cannoedd, miloedd o wardrobs; dwi 'di bod i dai pobl a 'di gweld tu fewn iddyn nhw... a dwi'n deud wrth Mam drosodd a drosodd, allan o bob cwsmer dwi 'di gweld, a ma' rhai ohonyn nhw'n hynod o gyfoethog a llwyth ohonyn nhw efo llwyth o wardrobs, Mam sydd dal efo'r mwya' o ddillad!

Dwi'm yn gwybod be' 'di o amdani ond mae wrth ei bodd efo dillad. 'Sa hi'n deud wrtha chi bod hi ddim yn gallu steilio fi ar ôl tair oed achos o'n i'n gwneud penderfyniadau fy hun: 'na, dwi isho gwisgo hwn efo hwn' neu 'dwi isho neud hyn efo hwn'. Felly o'n i ddim yn hawdd delio efo mae'n rhaid.

Creadigrwydd cynnar

Ond 'oedden nhw'n gadael i mi fod yn greadigol. 'Nes i ddechrau gwneud dillad pan o'n i'n reit ifanc hefyd, dwi'n meddwl oedd hynny'n rhywbeth oedd yn galluogi fi i fod yn greadigol ac wedi galluogi fi i fod yn wahanol hefyd.

Dwi'n meddwl mai dyna be' o'n i wastad yn licio. O'n i'n licio bod yn wahanol. O'n i'n licio bod yr un oedd yn sefyll allan. Dwi'n licio cerdded i fewn i stafell a pobl yn sbïo arna fi. 'Swn i'n fwy ypset dwi'n meddwl 'sa pobl ddim yn sbïo arna fi pan dwi'n cerdded i fewn i stafell.

Pynciau cysylltiedig