Pencampwriaeth Rygbi Unedig: Bulls 55-20 Dreigiau

  • Cyhoeddwyd
Ollie Griffiths yn ceisio osgoi tacl gan chwaraewyr y Bulls.Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Ollie Griffiths yn ceisio osgoi tacl gan chwaraewyr y Bulls.

Fe wnaeth y Dreigiau golli'n drwm yn erbyn y Bulls yn ystod y gêm gyntaf o ddau yn Ne Affrica yn y Bencampwriaeth Rygbi Unedig er iddyn nhw ddangos tipyn o gymeriad.

Yn dilyn ceisiau Arno Botha, Lionel Mapoe, Kurt-Lee Arendse a Johan Grobbelaar, roedd y Bulls â mantais aruthrol cyn i Rio Dyer dirio i'r ymwelwyr.

31-8 oedd y sgôr ar ddiwedd yr hanner cyntaf.

Fe groesodd Jarrod Prosser a Sam Davies y llinell naill ochr i ail gais Arendse wrth i'r Dreigiau wneud eu gorau i gau'r bwlch.

Ond daeth ceisiau pellach gan Marcell Coetzee, Lionel Mapoe a Zak Burger i sicrhau buddugoliaeth gyfforddus a phwynt bonws i'r Bulls.

Mae'r Dreigiau'n aros yn 15ed safle'r tabl yn dilyn nawfed colled y tymor a bydd tîm Dean Ryan yn wynebu'r Sharks yn Durban ddydd Gwener.

Pynciau cysylltiedig