Tlws yr FA: Wrecsam yn cyrraedd Wembley eto
- Cyhoeddwyd
Mae Wrecsam wedi cyrraedd rownd derfynol Tlws yr FA am y trydydd tro yn eu hanes.
Roedd cyd-berchennog y clwb, Ryan Reynolds, wedi teithio o'r Unol Daliaethau i weld y Dreigiau yn curo Stockport o ddwy gôl i ddim. Ac roedd na ddiweddglo dramatig i'r gêm.
Roedd yr hanner cyntaf yn dynn a Stockport gafodd y cyfle gorau gyda Sarcevic yn ergydio dros y traws ac yntau fodfeddi o flaen y gôl.
Fe roedd hi'n gêm fwy agored yn yr ail hanner.
Dechreuodd yr ymwelwyr yn addawol gyda Sarcevic eto yn cydweithio gyda Quigley ond ei ergyd yn cael ei harbed gan droed y golgeidwad Dibble.
Yna daeth Wrecsam yn agos. Roedd Ollie Palmer yn y cwrt cosbi a'r gôl o'i flaen ond fe lwyddodd Ash Palmer i'w daclo cyn iddo gael cyfle i ergydio.
Roedd 'na gyfle i Paul Mullin ar ôl 66 munud ar ôl i Stockport fethu clirio ond fe aeth ei ergyd heibio i'r postyn.
Bron yn syth, roedd yr ymwelwyr yng nghwrt cosbi Wrecsam. Fe lwyddodd Dibble i arbed yn gampus o ergyd Connor Jennings.
Roedd Jennings yn nhîm Wrecsam gollodd yn rownd derfynol y Tlws yn erbyn North Ferriby yn 2015.
Daeth Davies yn agos i'r tîm cartref gyda ergyd a oedd yn edrych fel ei bod hi am gyrraedd y gornel bellaf ond Hinchcliffe eto yn effro yn y gôl.
Roedd yn rhaid i Wrecsam aros tan y munudau olaf am y goliau buddugol.
Cododd y tô pan sgoriodd Paul Mullin gyda ergyd o'r tu allan i'r cwrt cosbi ar ôl i McAllinden ennill y bêl.
Fe ddechreuodd y cefnogwyr ddathlu o ddifrif pan sgoriodd Mullin eto yn y trydydd munud a oedd wedi ei ganiatau am anafiadau.
8703 oedd y dorf fwyaf erioed ar y Cae Ras ar gyfer gêm yn Nhlws yr FA.
Mae'r Dreigiau ar eu ffordd i Wembley felly. Bromley fydd y gwrthwynebwyr ar ddydd Sul, 22 Mai.