Pencampwriaeth Rygbi Unedig: Scarlets 35-20 Caerdydd

  • Cyhoeddwyd
Johnny McNicholl yn sgorio dau gais i'r Scarlets a hynny ar ei 100fed ymddangosiadFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Johnny McNicholl yn sgorio dau gais i'r Scarlets a hynny ar ei 100fed ymddangosiad

Roedd yna fuddugoliaeth pwynt bonws i'r Scarlets nos Sadwrn yn erbyn Caerdydd er i Sione Kalamafoni gael cerdyn coch yn gynnar yn yr ail hanner am dacl beryglus yn erbyn Gwilym Bradley.

Johnny McNicholl oedd yn gyfrifol am sgorio dau o geisiau'r Scarlets ac fe lwyddodd Sam Costelow i sgorio 20 pwynt gan gynnwys cais arbennig wedi 22 munud.

Josh Adams ar yr asgell a James Botham a sgoriodd i Gaerdydd - y naill wedi 13 munud a'r llall ar ddiwedd y gêm.

Nid y Scarlets yn unig wnaeth droseddu. Roedd yna ddau gerdyn melyn i Gaerdydd - un i Adams am daro'r bêl ymlaen yn fwriadol a'r llall i Dillon Lewis am droseddau yn y sgrym.

Bydd y ddau dîm yn wynebu ei gilydd eto'r penwythnos nesaf - y tro hwn yng Nghaerdydd.