Alzheimer's: 'Cam pwysig' medd gwyddonwyr o Gymru

  • Cyhoeddwyd
Scan oFfynhonnell y llun, PASIEKA
Disgrifiad o’r llun,

Mae ymennydd claf Alzheimer's (chwith) i'w weld wedi ei leihau i gymharu ag ymennydd normal

Mae astudiaeth newydd sy'n cael ei arwain gan wyddonwyr o Gymru wedi dod o hyd i'r genynnau hynny sy'n cael eu cysylltu gyda pheri'r prif risg o ddatblygu'r cyflwr Alzheimer's.

Mae gwyddonwyr o Brifysgol Caerdydd, sy'n rhan o'r astudiaeth fwyaf o'i fath, yn dweud y gallai'r ymchwil arwain at awgrymu dulliau newydd o roi triniaeth,

Y gobaith, medd y gwyddonwyr, yw y bydd profion genetig yn y dyfodol yn helpu canfod y bobl sydd â'r risg mwyaf o ddatblygu'r cyflwr cyn i symptomau ymddangos.

Yn ôl Dr Rebecca Sims, Uwch-gymrawd Ymchwil Prifysgol Caerdydd a chyd-arweinydd y gwaith ymchwil, mae'r canfyddiadau yn hynod bwysig.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Mae'r astudiaeth yn nodi 75 o enynnau sydd â mwy o risg o ddatblygu Alzheimer's, gan gynnwys 42 nad oedd wedi eu cysylltu â'r cyflwr o gwbl o'r blaen.

"Mae'r astudiaeth yn fwy na dyblu'r genynnau o ni'n ymwybodol ohonynt a allai ddylanwadu ar y risg o ddatblygu'r math mwyaf cyffredin o Alzheimer's, " meddai Dr Sims.

"Mae'n rhoi targedau newydd ar gyfer ymyrraeth therapiwtig cynt, ac yn hwyluso ein gallu i ddatblygu alogrithms fydd yn rhagdybio pwy all ddatblygu Alzheimer's."

Gobaith y tîm yn y dyfodol yw gallu penderfynu pa ffactorau sy'n rhoi pobl mewn risg o Alzheimer's, a datblygu therapïau i drin y cyflwr.

Dywedodd yr Athro Julie Williams, cyfarwyddwr Canolfan UK Dementia ym Mhrifysgol Caerdydd, fod yr astudiaeth yn benllanw 30 mlynedd o waith ymchwil.

"Mae'r gwaith yma yn gam mawr ymlaen yn ein her i geisio deall Alzheimer's, ac yn y pendraw i ddod o hyd i driniaethau i arfau neu atal yr afiechyd."

Prif achos dementia

Fe wnaeth dros 100,000 o gleifion Alzheimer's gymryd rhan yn y gwaith ymchwil 'mwyaf o'i bath'.

Roedd eu genynnau yn cael eu cymharu gyda 600,000 o bobl iach, gan gymharu gwahaniaethau rhwng genynnau'r ddau grŵp.

Alzheirmer's yw prif achos dementia, gan effeithio ar dros 850,000 yn y DU.

Cafodd y prosiect rhyngwladol ei gynnal mewn wyth gwlad gan gynnwys y DU, yr Unol Daleithiau, Awstralia a gwledydd Ewrop. .

Cafodd y prosiect yn y DU ei arwain ar y cyd gan Dr Rebecca Sims a'r Athro Julie Williams o Brifysgol Caerdydd, a'i ariannu gan y Cyngor Ymchwil Meddygol.