Penio pêl-droed 'yn ffactor' yn dementia chwaraewr

  • Cyhoeddwyd
Alan JarvisFfynhonnell y llun, Llun Teulu
Disgrifiad o’r llun,

Chwaraeodd Alan Jarvis dros Everton, Hull City a Mansfield, yn ogystal â Chymru

Roedd profiad cyn bêl-droediwr rhyngwladol o benio pêl yn ffactor yn ei farwolaeth, yn ôl crwner.

Bu farw Alan Jarvis, oedd â chlefyd Alzheimer, ym mis Rhagfyr 2019.

Clywodd cwest i'w farwolaeth ei bod hi'n "debygol" mai "achos ei waith" y datblygodd y cyflwr.

Enillodd Mr Jarvis dri chap dros Gymru yn y 1960au a chwarae dros 150 o gemau i Hull City.

Roedd Mr Jarvis yn 76 pan fu farw mewn cartref gofal yn Yr Wyddgrug yn 2019.

Roedd ei deulu'n argyhoeddedig fod ei yrfa bêl-droed wedi cyfrannu at ei gyflwr, a threfnwyd bod ei ymennydd yn cael ei astudio gan niwrobatholegydd ymgynghorol mewn ysbyty yn Glasgow.

Yn ei adroddiad, gafodd ei gyflwyno i'r cwest, dywedodd Dr William Stewart bod pêl-droedwyr bum gwaith yn fwy tebygol o farw o glefyd Alzheimer na'u cyfoedion, a bod ymennydd Mr Jarvis yn gyson â'r esiamplau hyn.

'Clefyd diwydiannol'

Clywodd y llys fod Mr Jarvis, pan oedd yn chwarae pêl-droed proffesiynol, yn ymarfer penio'r bêl yn gyson a'i fod wedi cael ei daro'n anymwybodol gan bêl i'w wyneb tua diwedd ei yrfa.

Dechreuodd ddangos symptomau dementia yn 2006, ac roedd angen gofal llawn amser o 2012 tan ei farwolaeth.

Daeth y crwner John Gittins i'r casgliad mai "clefyd diwydiannol" oedd Alzheimer yn achos Mr Jarvis.

"Dwi ddim yn dweud bod chwarae pêl-droed wastad yn achosi dementia ond mae'n debygol, yn achos Mr Jarvis, bod ei gefndir galwedigaethol wedi bod yn ffactor," meddai.

Ychwanegodd ei bod hi'n debygol y bydd achosion eraill tebyg i un Mr Jarvis yn dod i'r amlwg yn y dyfodol.

Wrth ymateb, dywedodd ei ferch, Sarah Jarvis, ei bod hi'n hapus gyda'r casgliad. Dywedodd hefyd yr hoffai weld gwaharddiad ar benio mewn pêl-droed plant.

Mae hynny wedi digwydd ym mhob rhan o'r DU ar wahân i Gymru, er bod yma ganllawiau sydd yn dweud wrth hyfforddwyr bwysleisio sgiliau sy'n cadw'r bêl ar y llawr gyda thimau dan 11 oed, ynghyd a chyngor i beidio ymarfer penio'r bêl yn benodol.