'Dim ymchwiliad wedi bod i bryniant ffatri Wafer Fab'
- Cyhoeddwyd
Dyw'r ymchwiliad a addawyd gan Brif Weinidog San Steffan i bryniant ffatri lled-ddargludyddion yng Nghasnewydd gan gwmni o China ddim wedi digwydd, yn ôl grŵp o ASau.
Yng Ngorffennaf 2021 fe ddywedodd Boris Johnson wrth Bwyllgor Cyswllt Seneddol y byddai'r Ymgynghorydd ar Ddiogelwch Cenedlaethol yn ymchwilio i bryniant cwmni Wafer Fab yng Nghasnewydd gan Nexperia.
Ond mewn adroddiad a fydd yn cael ei gyhoeddi ddydd Mawrth dywed aelodau'r Pwyllgor ar Faterion Tramor nad oes "ganddynt ddewis" ond cymryd yn ganiataol nad yw'r ymchwiliad wedi dechrau.
Mae'r aelodau'n rhybuddio y gallai gwerthiant Newport Wafer Fab achosi cyfaddawdu ar ddiogelwch y DU.
Mae Newport Wafer Fab, sy'n cynhyrchu lled-ddargludyddion (semiconductors), yn cyflogi 450 o bobl yn y ffatri yn ardal Dyffryn y ddinas.
Mae lled-ddargludyddion, sydd hefyd yn cael eu galw'n microsglodion neu sglodion, yn caniatáu i drydan lifo trwy ddyfeisiadau. Maen nhw felly'n rhan bwysig o bob math o bethau, o ffonau clyfar i ganolfannau data enfawr sy'n cynnal y rhyngrwyd.
Maent yn cael eu hystyried yn hanfodol i ddiogelwch cenedlaethol y DU a materion byd-eang eraill ac mae ASau wedi rhybuddio eu bod yn bryderus am "werthu asedau mor werthfawr i gystadleuydd strategol".
Cwmni Wingtech sydd yn berchen ar Nexperia, cwmni sydd wedi'i restru yn Shanghai ac a gredir o fod yn cael cefnogaeth gan Blaid Gomiwnyddol China.
Ar hyn o bryd mae yna brinder o led-ddargludyddion ar draws y byd.
Wythnos diwethaf fe wnaeth Nexperia a Llywodraeth y DU wadu adroddiadau bod y llywodraeth wedi rhoi sêl bendith i'r pryniant.
Fe ddywedodd Cadeirydd y Pwyllgor Materion Tramor, Tom Tugendhat: "Ma lled-ddargludyddion yn hanfodol i bob agwedd o fywyd modern ac mae cwmni Newport Wafer Fab yn un o brif gynhyrchwyr y DU.
"Wrth i'r cwmni gael ei drosglwyddo i ddwylo Nexperia mae nifer yn gofyn pam ein bod, yn ôl pob ymddangosiad, yn trosglwyddo is-adeiladwaith diogelwch pwysig i gwmnïau tramor sydd â chysylltiad gyda China.
"Mae dyfodol hirdymor y genedl yn ddibynnol, nid yn unig ar y lluoedd arfog, ond ar wytnwch ein heconomi ac mae hynny'n golygu sicrhau peidio aberthu sefydlogrwydd y dyfodol am ddatblygiad tymor byr.
"Ry'n yn croesawu geiriau cysurlon y Prif Weinidog bod ymchwiliad ar y gweill ond mae cyn lleied o fanylion wedi eu cyflwyno i'r Pwyllgor fel ein bod wedi dod i'r canlyniad anffodus nad oes unrhyw adolygiad wedi digwydd."
Dywed y Pwyllgor eu bod wedi holi'n gyson yr Ymgynghorydd ar Ddiogelwch Cenedlaethol, Syr Stephen am ddiweddariad ar y sefyllfa ac nad yw'r atebion hyd yma yn dderbyniol.
Maent nawr yn galw ar Lywodraeth y DU i nodi'n union beth mae'r Ymgynghorydd Diogelwch Cenedlaethol yn ei wneud, pam bod y Prif Weinidog wedi galw am ymchwiliad a pham bod hynny ddim wedi digwydd.
Petai Llywodraeth y DU yn ymyrryd yng ngwerthiant Wafer Fab fe fyddai modd gwneud hynny o dan bwerau cyfraith newydd a ddaeth i rym yn Ionawr - sef Deddf Diogelwch Cenedlaethol a Buddsoddiad.
Mae cais wedi cael ei roi i'r Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol i ymateb i adroddiad y Pwyllgor.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Ebrill 2022
- Cyhoeddwyd11 Gorffennaf 2021