Ydy hi'n deg sefyll arholiad ers y pandemig?
- Cyhoeddwyd
Mae effaith "ofnadwy" Covid ar ysgolion yn codi amheuon am degwch i ddisgyblion sy'n sefyll arholiadau eleni.
Dyna'r rhybudd gan brifathrawon wrth i arholiadau Safon Uwch a TGAU ddechrau ym mis Mai, ar ôl iddyn nhw gael eu canslo am ddwy flynedd oherwydd y pandemig.
Mae 'na bryder bod absenoldebau yn golygu y bydd rhai disgyblion yn colli allan ar ddysgu arbenigol cyn y profion.
Mae Cymwysterau Cymru yn "hyderus" y bydd llai o gynnwys o fewn cyrsiau yn mynd i'r afael â'r problemau.
Arholiadau cyntaf ers 2019
Mae arholiadau yn digwydd yr haf hwn am y tro cyntaf ers 2019.
Athrawon osododd y graddau yn 2020 a 2021, a chafodd mwy o ddisgyblion y graddau uchaf bryd hynny.
Yn Ysgol Uwchradd Cei Connah yn Sir y Fflint, roedd bron i un mewn pump o athrawon ac un mewn chwech o ddisgyblion yn absennol gyda Covid yr wythnos ddiwethaf.
Yn ôl y pennaeth Amanda Harrison, mae'r sefyllfa yn "waeth nag ar unrhyw gyfnod arall" yn ystod y pandemig.
"Mae wedi bod yn ofnadwy," meddai.
"Mae pawb yn teimlo fel bod y pandemig Covid wedi symud ymlaen, ond nid dyna'r realiti wrth ddelio gydag o ddydd ar ôl dydd yn yr ysgol."
Y disgyblion sydd â'r lefel isaf o ran presenoldeb yw'r rheiny ym mlwyddyn 11, sy'n wynebu arholiadau allweddol TGAU ar ôl y Pasg.
Arholiadau'n 'annheg'
Mae Ms Harrison hefyd wedi cwestiynu'r penderfyniad i barhau gydag arholiadau TGAU, gan ei ddisgrifio fel un "annheg".
Dywedodd: "I nifer dydyn nhw ddim yn cael eu hannog i weithio gartref ac maen nhw angen y cysylltiad yna gyda'u cyd-ddisgyblion, gyda staff sy'n eu 'nabod nhw'n dda i'w edrych ar eu hôl nhw a'u hysgogi ac maen nhw wedi colli allan ar hynny."
Ychwanegodd: "Da' ni'n poeni'n fawr amdanyn nhw [y disgyblion]. Da' ni'n poeni'n fawr am y gorbryder a'r straen sy'n wynebu ein dysgwyr ym mlwyddyn 11."
Yn ôl pennaeth Ysgol Maes Garmon yn Sir y Fflint, mae'r flwyddyn ddiwethaf' wedi bod yn "heriol" wrth i athrawon a disgyblion fod i ffwrdd o'r ysgol am gyfnodau oherwydd Covid.
Ychwanegodd Bronwen Hughes fod ganddi "bryderon" ynghylch profion TGAU yn mynd yn eu blaenau.
"Tra bod 'na leihau ar gynnwys y manylebau," meddai, "does 'na ddim dwywaith mae effaith eu profiadau nhw dros y cyfnodau clo ym mlwyddyn 10 wedi cael effaith ar eu haddysg nhw, eu sgiliau nhw a'u gwybodaeth nhw wrth iddyn nhw baratoi ar gyfer heriau blwyddyn 11.
"Dwi'n mawr obeithio y bydd CBAC yn gallu derbyn hynny."
Mae cyfarwyddwr undeb ASCL Cymru, sy'n cynrychioli prifathrawon, yn pwysleisio bod lefelau presenoldeb yn "echrydus".
Dywedodd Eithne Hughes bod rhai disgyblion wedi colli amser hanfodol gydag athrawon pynciau dros yr wythnosau diwethaf, gyda hynny'n arwain at "ddarlun anwastad o ran anfantais a phresenoldeb" ar draws y wlad.
"Ry'n ni'n dymuno'r gorau i'r dysgwyr ac ry'n ni'n gwybod bod ysgolion wedi gwneud eu gorau, ond mae'r sefyllfa yn eithriadol o anodd ac mae'n anodd gorbwysleisio hynny," meddai.
Yn ôl Cymwysterau Cymru, mae newidiadau wedi cael eu gwneud i arholiadau i'w gwneud nhw "mor deg ac sy'n bosib".
Bydd 'na lai o gynnwys mewn arholiadau, gyda graddau yn cael eu marcio'n "fwy hael" na mewn blwyddyn arferol, meddai'r prif weithredwr Philip Blaker.
Ond fe wnaeth gydnabod bod rhai dysgwyr wedi ei chael hi'n fwy anodd na'i gilydd yn ystod y pandemig, ac na fydd asesiadau yn gallu "datrys y broblem honno".
"Ry'n ni'n hyderus y bydd y trefniadau sydd wedi cael eu rhoi yn eu lle i leihau cynnwys y cwrs o gymorth i bobl eleni," ychwanegodd Mr Blaker.
Adroddiad diwedd tymor Covid
Hyd yn oed ar ôl i ysgolion ailagor yn ar ôl y cyfnodau clo, mae'r lefelau presenoldeb wedi aros llawer yn is na lefelau cyn y pandemig.
Ar ei uchaf ym mis Mawrth, roedd tua 18,250 o absenoldebau dyddiol ymysg disgyblion oherwydd Covid.
Yn y flwyddyn academaidd hon, mae 83,255 o ddisgyblion wedi methu rhwng 5.5 a 10 o ddiwrnodau o ysgol oherwydd Covid.
Mae nifer yr achosion Covid wedi cynyddu yn yr wythnosau diwethaf, yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol.
Yr amcangyfrif ydy bod achosion o fewn disgyblion ysgolion cynradd yn uwch na'r cyfartaledd ar draws Cymru dros gyfnod o chwe wythnos - a'r gred yw bod 13% o blant pump oed wedi eu heintio o fewn yr wythnos ddiweddaraf.
O ran disgyblion uwchradd, mae nifer yr achosion yn cynyddu ond ar lefel is na'r cynnydd o fewn y boblogaeth gyfan.
Mae nifer o ysgolion uwchradd nawr yn poeni beth fydd effaith y cyfan ar ddisgyblion sy'n sefyll eu harholiadau TGAU a Safon Uwch.
Mae cynnwys y cyrsiau wedi eu lleihau eleni i adlewyrchu bod gymaint o ddisgyblion wedi methu cyfnod yn yr ysgol.
Yn ôl Cymwysterau Cymru bydd mesurau yn eu lle i sicrhau na fydd y graddau yn disgyn yn sylweddol i lefelau cyn y pandemig.
'Lot o straen' i orffen gwaith
Mae disgyblion blwyddyn 11 Ysgol Maes Garmon yn paratoi ar gyfer eu harholiadau TGAU ac yn dweud bod 'na heriau wedi bod yn y flwyddyn ddiwethaf.
"Wrth gwrs dwi'n nerfus," meddai Joseph, "ond mae'n rhaid i fi fod yn hyderus oherwydd os dwi'n teimlo'n sori dros fy hun fyddai ddim yn gallu llwyddo."
Dywedodd Iwan fod y flwyddyn hon wedi bod yn "anodd" ac nad oedd hi'n hawdd gweithio o adref.
"Dwi'n meddwl bod hi'n iawn i ni wneud yr arholiadau erbyn rŵan - mae pawb bron iawn yn barod," meddai.
Yn ôl Nel, 16, mae yna "lot o straen rŵan arnom ni i orffen popeth da' ni angen yn y pynciau er mwyn bod yn barod ac wedyn cael amser i adolygu felly mae o yn anodd".
Dywedodd Alys, 16, fod absenoldebau athrawon yn "sicr wedi tarfu ar ein haddysg ni", gan ychwanegu: "Dwi yn meddwl o bosib y bydd ein graddau yn dioddef oherwydd hynny."
Be' nesaf?
Ar ôl gwyliau'r Pasg, ni fydd angen i ddisgyblion a staff ysgolion uwchradd gymryd profion llif unffordd i brofi ar gyfer Covid bob wythnos.
Ar hyn o bryd mae dal yn ofynnol iddyn nhw wisgo masgiau mewn coridorau a llefydd cymunedol eraill dan do.
Mae'r mesurau mewn ysgolion gwahanol yn dibynnu ar y risg yn lleol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Mawrth 2022
- Cyhoeddwyd9 Mawrth 2022
- Cyhoeddwyd16 Chwefror 2022