Cynnig haneru gwyliau haf ysgolion wrth ad-drefnu tymhorau
- Cyhoeddwyd
Mae gwyliau haf o dair wythnos yn un o'r opsiynau mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn i ysgolion a rhieni ystyried, wrth iddyn nhw edrych ar ddyfodol y calendr ysgol.
Mewn arolwg ar-lein ar strwythur y tymhorau, maen nhw wedi cynnwys tri syniad, sydd i gyd yn cynnwys cwtogi ar y gwyliau haf presennol o chwe wythnos.
Byddai nifer y dyddiau gwyliau yn aros yr un peth ond wedi eu rhannu yn wahanol yn ystod y flwyddyn ysgol, gan gynnwys yn ystod gwyliau'r Nadolig neu hanner tymor.
Tra bod rhai'n croesawu'r syniad, mae ystyried gwyliau haf byrrach fel "cicio pêl wleidyddol" yn ôl un dirprwy bennaeth o Landudno.
Dywedodd Llywodraeth Cymru mai dylunio blwyddyn ysgol sy'n cefnogi lles, sy'n taclo anghydraddoldeb ac sy'n cyd-fynd yn well gyda bywyd teuluol modern yw'r nod.
Daw'r arolwg fel rhan o gynlluniau'r llywodraeth i foderneiddio'r flwyddyn academaidd, gyda'r Prif Weinidog Mark Drakeford eisoes wedi sôn am yr angen am "newid radical mewn polisi".
Mae cynllun peilot eisoes ar droed mewn 14 ysgol yng Nghymru i ymestyn y diwrnod ysgol, gan ychwanegu pum awr yr wythnos i ddisgyblion.
Mae arbenigwyr hefyd wedi awgrymu y gallai gwyliau haf byrrach fod o help i ddisgyblion o gefndiroedd difreintiedig, dolen allanol.
'Posib y byddai newid yn beth da'
Mae Charlotte Harding yn fam i ddau o blant yng Nglynrhedynog, Cwm Rhondda, ac yn dweud ei bod yn gweld rhai manteision o newid y drefn.
"Fi'n teimlo'n eitha' cymysg mewn gwirionedd, ni wedi arfer gyda gwyliau chwe wythnos ond mae'n gallu bod ychydig yn hir," meddai.
"Mae'r plant yn diflasu, a'r rhieni yn gallu teimlo dan bwysau, felly mae'n bosib byddai newid yn beth da.
"Fi'n gweld e'n eithaf anodd cael nhw 'nôl mewn i feddwl am ysgol, felly os oedd e'n fyrrach fyddai e ddim yn gymaint o sioc i'r system."
Dyw Llywodraeth Cymru ddim wedi dweud eto pryd allai unrhyw newid i strwythur y tymhorau ysgol ddigwydd.
Ond, ym mis Ionawr, fe gyhoeddon nhw 'Asesiad Cyflym o'r Dystiolaeth' i newid y calendr ysgol, oedd yn dweud fod angen casglu rhagor o wybodaeth gan fod y dystiolaeth bresennol yn gymysg.
'Trio gwneud ein gwaith'
Yn ôl penaethiaid ac undebau addysg fodd bynnag, does dim tystiolaeth hyd yma y byddai newid o'r fath yn llesol i ddisgyblion na staff.
"Mae'r amseru wedi'n synnu ni fel proffesiwn, a ninnau dal yn delio 'efo Covid," meddai Hywel Parry, dirprwy bennaeth Ysgol John Bright yn Llandudno.
"Dwi'n clywed y ddadl yn cael ei wneud bod ein gwyliau haf ni'n rhy hir, ac eto 'dan ni yma yng Nghymru a Phrydain 'efo rhai o'r gwyliau haf byrraf yn Ewrop.
"Yn sydyn mae hwn yn bêl wleidyddol i gicio o gwmpas tra bod ni fel proffesiwn jyst yn trio gwneud ein gwaith."
Yn ôl Mr Parry, mae'n bwysig bod disgyblion ac athrawon yn cael "toriad" digonol dros yr haf fel bod pawb yn "ffres ar gyfer mis Medi".
"Maen nhw'n cael digon o amser i ddiflino, maen nhw'n cael digon o amser i'r wybodaeth a'r sgiliau maen nhw wedi dysgu'r flwyddyn gynt i setlo," meddai.
"Ond maen nhw hefyd yn cael y teimlad yna o 'raddio fyny' i flwyddyn newydd.
"Mae mis Medi mor elfennol o bwysig ym myd addysg, i osod routines newydd, i gyflwyno gweithgareddau a gwaith newydd i ddisgyblion, a bod nhw'n cychwyn yn ffres."
Dywedodd Sion Amlyn o undeb NASUWT fod "dim tystiolaeth" i gefnogi'r syniad y byddai gwyliau haf byrrach yn llesol - ac y byddai'n cael gwared ag un o'r prif fanteision sy'n denu staff i'r proffesiwn.
"Mae ganddoch chi argyfwng recriwtio yn y byd addysg a chadw staff yn y swyddi, problemau 'efo cyflog, sydd ddim wedi codi 'efo chwyddiant, a phroblemau 'efo llwyth gwaith, camymddygiad," meddai.
"Felly ar ben hynny 'dach chi'n awgrymu newid... strwythur blynyddol yr ysgol, sy'n llesol fel mae ar hyn o bryd i staff - dwi'n meddwl bod o'n gam niweidiol."
'Nid gwasanaeth plant yw byd addysg'
Ychwanegodd fod perygl hefyd fod y cynlluniau'n ystyried ffactorau fel hwyluso'r baich ar rieni yn ystod y gwyliau haf, ar draul beth sydd orau i athrawon a disgyblion.
"Ar ddiwedd y dydd, nid gwasanaeth gofal plant ydy byd addysg, ond gwasanaeth addysgu," meddai.
"Felly rhaid cadw hynny'n glir ym meddwl rhywun wrth wneud unrhyw astudiaeth neu benderfyniad."
Yn ogystal â holi barn rhieni ac ysgolion bydd Llywodraeth Cymru hefyd yn asesu effaith ehangach unrhyw newid posib, gan gynnwys ar sectorau fel twristiaeth.
"Mae'n gyfle i ni ddweud, os bod nhw am symud y gwyliau, i beidio meddwl gormod am y gaeaf er enghraifft," meddai'r cyn-Aelod o'r Senedd Suzy Davies, sydd bellach yn gadeirydd ar Gyngor Twristiaeth Cymru.
"Does dim lot o ddiddordeb mewn mynd ar wyliau teuluol oherwydd mae'r nosweithiau'n hir, ac mae pobl yn meddwl am y Nadolig ac yn rhoi eu harian tuag at hynny.
"Mae'n well 'da nhw fynd mas pan mae'r dyddiau'n hir ac mae lot mwy 'da nhw i wneud."
'Sgwrs o ddifrif'
Yn sgil profiadau athrawon, disgyblion a theuluoedd dros y ddwy flynedd ddiwethaf, dywedodd Llywodraeth Cymru mai dyma'r amser "i gael sgwrs o ddifri' am strwythur y flwyddyn ysgol".
"Rydyn ni eisiau edrych ar ddylunio blwyddyn ysgol sy'n cefnogi lles dysgwyr a staff yn well, sy'n taclo anghydraddoldeb ac sy'n cyd-fynd yn well gyda bywyd teuluol modern a bywydau pobl sy'n gweithio."
Ychwanegodd y llefarydd nad "lleihau neu gynyddu" gwyliau athrawon a disgyblion yw'r ffocws, "ond yn hytrach effaith y gwahanol opsiynau wrth ailstrwythuro hyd gwyliau a thymhorau".
Mwy ar y stori hon ar Wales Live ar BBC One Wales, 22:30 nos Fercher, neu ar BBC iPlayer.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Ionawr 2022
- Cyhoeddwyd9 Rhagfyr 2021
- Cyhoeddwyd24 Tachwedd 2021