Y Gynghrair Genedlaethol: Wrecsam 6-0 Barnet
- Cyhoeddwyd
Fe wnaeth Wrecsam ddychwelyd i'r ail safle yn y Gynghrair Genedlaethol gan roi crasfa i Barnet ar y Cae Ras.
Rhediad nerthol gan Ollie Palmer roddodd y cochion ar y blaen, cyn i'w bartner Paul Mullin ychwanegu'r ail.
Daeth trydedd gôl Wrecsam cyn yr egwyl, gydag ergyd Jordan Davies yn curo Jake Askew o 18 llath.
Daliodd y cochion i bwyso ar ôl yr hanner, gyda'r amddiffynnwr Ben Tozer yn sgorio ei gôl gyntaf i'r clwb.
Cafodd Palmer a Mullin eu heilyddio gyda chwarter awr yn weddill, ond parhau wnaeth y goliau.
Reece Hall-Johnson gyda'r pumed ar ôl croesiad Liam McAlinden, gyda McAlinden yn cwblhau'r sgorio.
Mae Wrecsam nawr yn ddiguro mewn 12 gêm, ond yn parhau wyth pwynt y tu ôl i Stockport ar frig yr adran.