Y Gynghrair Genedlaethol: Wrecsam 3-2 Eastleigh

  • Cyhoeddwyd
wrecsamFfynhonnell y llun, Getty Images

Roedd yna fuddugoliaeth ddramatig i Wrecsam yn erbyn Eastleigh yn y Gynghrair Genedlaethol brynhawn Sadwrn.

Tîm cymharol isel yn y gynghrair yw Eastleigh ond nhw aeth ar y blaen gyntaf ar y Cae Ras gyda gôl gan Danny Whitehall.

Ymhen munud roedd Wrecsam wedi unioni'r sgôr - tafliad hir Ben Tozer yn rhoi cyfle i Aaron Hayden benio i'r rhwyd.

Nid oedd Wrecsam ar eu gorau yn y gêm hon ac ar ôl 66 munud roedd Whitehall wedi rhwydo unwaith yn rhagor a'r Dreigiau ar ei hôl hi.

Ddeg munud yn ddiweddarach roedd y Dreigiau yn ôl yn gyfartal wedi i Paul Mullin sgorio wedi croesiad gan Oliver Palmer.

Roedd y gêm yn llawn cyffro a Wrecsam yn cael cic o'r smotyn ar yr eiliad olaf.

Roedd y naw mil o dorf yn ysu am i Mullin blannu'r bêl yn y rhwyd a chawsont mo'u siomi.