Pencampwriaeth Rygbi Unedig: Rygbi Caerdydd 14-49 Scarlets

  • Cyhoeddwyd
Theo Cabango o Gaerdydd yn dianc rhag Tom Rogers o'r ScarletsFfynhonnell y llun, Rex Features
Disgrifiad o’r llun,

Theo Cabango o Gaerdydd yn dianc rhag Tom Rogers o'r Scarlets

Roedd hi'n amlwg o'r dechrau bod Rygbi Caerdydd yn awyddus iawn i ennill y gêm hon wedi i'r Scarlets eu trechu nhw yn Llanelli yr wythnos diwethaf.

Y tîm cartref a ddechreuodd gryfaf wrth i Theo Cabongo sgorio cais o fewn pedair munud ac wedi i Jarrod Evans drosi yn llwyddiannus roedd y sgôr yn 7-0.

O fewn llai na deg munud roedd Caerdydd wedi dyblu eu mantais wrth i Lloyd Williams sgorio cais wedi cydweithio da rhyngddo fe ac Owen Lane (14-0).

Ond cyn hanner amser roedd y Scarlets yn ôl yn y gêm. Er iddynt golli meddiant wrth y linell gais wedi hanner awr ac i'r dyfarnwr beidio caniatáu cais i Sione Kalamfoni fe groesodd Aaron Shingler wedi 40 munud a'r sgôr ar hanner amser oedd 14-7.

Roedd y Scarlets ar dân ar ddechrau'r ail hanner gyda Liam Williams yn sgorio cais i'r ymwelwyr ac wedi trosiad llwyddiannus gan Sam Costelow roedd y ddau dîm yn gyfartal (14-14)

Yn fuan roedd yna ergydion eraill i Gaerdydd - roedd yna gardiau melyn i Seb Davies a Jarrod Evans a dau gais arall i'r Scarlets - y naill yn gais cosb a'r llall gan Dan Davis ac roedd sgôr y Scarlets wedi dyblu ac yn ddwbl sgôr Caerdydd (14-28).

Ond nid dyna ddiwedd geisiau'r Scarlets - cyn diwedd y gêm roedd yna geisiau i Liam Williams, Tom Rogers a John Davies.

Y sgôr terfynol Caerdydd 14-49 Scarlets.