Cwpan Her Ewrop: Dreigiau 21-26 Caerloyw

  • Cyhoeddwyd
Louis Rees-ZammitFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Fe sgoriodd Louis Rees-Zammit i Gaerloyw mewn gêm fwy heriol na'r disgwyl

Roedd yna fwy o gyffro na'r disgwyl ar Rodney Parade nos Sadwrn wrth i'r Dreigiau groesawu Caerloyw yng Nghwpan Her Ewrop.

Caerloyw aeth ar y blaen ar ddechrau'r gêm wedi cais Santiago Socino, y bachwr, ac fe ychwanegodd Barton ddau bwynt.

Ond roedd y Dreigiau yn benderfynol a gyda gwaith da gan y blaenwyr fe groesodd Taine Basham y gwyngalch ac fe unionodd Sam Davies y sgôr.

Ymhen saith munud fe wnaeth Sam Davies dorri llinell Caerloyw ac wedi cyd-redeg twyllodrus ond grymus fe sgoriodd y blaen asgellwr Jarred Rosser a gyda chic sicr Sam Davies roedd y Dreigiau saith pwynt ar y blaen.

Nid oedd Caerloyw yn ildio dim ac fe ddaeth y bêl i ddwylo'r Cymro Louis Rees-Zammit mewn digonedd o le ac fe groesodd ond methodd Barton y trosiad.

Roedd y cloc yn goch ar ddiwedd yr hanner pan welwyd Sam Davies yn rhyddhau ei gapten Harrie Keddie a redodd yn gadarn gan dorri drwy dacl er mwyn sgorio cais dan y pyst ac fe ychwanegodd Sam Davies ddau bwynt arall.

Roedd hi'n sgôr annisgwyl ar hanner amser 21-12.

Roedd tensiwn yn y gêm ar ddechrau'r ail hanner a'r chwarae yn dipyn anos.

Roedd Caerloyw yn ymosod yn benderfynol iawn ond roedd amddiffyn y Dreigiau yr un mor gadarn.

Roedd hi'n anos i'r Dreigiau wedi i Elliot Dee eu bachwr gael cerdyn melyn ac fe sgoriodd blaenwyr Caerloyw drwy eu bachwr Socino a gyda dau bwynt o gic Twelvetrees dim ond dau bwynt oedd ynddi.

Roedd pac Caerloyw yn hynod hyderus erbyn hyn a chyn hir dyma Socino yn croesi'r gwyngalch eto ac roedd trosiad Twelvetrees yn llwyddiannus.

Fe reolodd Caerloyw weddill y gêm gan gadw'r Dreigiau yn eu hanner eu hunain ac felly colli oedd hanes y Dreigiau unwaith yn rhagor er gwaethaf eu hymdrechion.

Pynciau cysylltiedig