Pennal: 'Corwynt' yn achosi 'o leiaf £100,000' o ddifrod

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Fideo: 'Corwynt' wedi achosi difrod 'dychrynllyd' yn ardal Pennal ger Machynlleth

Dywed un o drigolion Pennal ger Machynlleth bod corwynt wedi achosi difrod sylweddol i'w heiddo a'i gadael mewn dagrau.

Mae Deilwen Breese yn berchen ar fusnes lletygarwch a dywedodd nad yw wedi gweld gwynt yn gadael dinistr tebyg i'r hyn a gafwyd brynhawn Mercher

"Diolch i'r Iôr, mae pawb yn saff ac wedi goroesi'r hunllef 'ma," meddai ar raglen Dros Frecwast.

Doedd Mrs Breese ddim adref ar y pryd ond dywed bod ymwelwyr yn un o fythynnod y Gogarth "wedi gweld y gwynt yn troi wrth ddod fyny'r ffeld ac yn mynd â phopeth o'i flaen".

Ffynhonnell y llun, Deilwen Breese
Disgrifiad o’r llun,

Mae difrod sylweddol i eiddo Deilwen Breese ym Mhennal yn sgil 'corwynt' ddydd Mercher

Ffynhonnell y llun, Deilwen Breese
Disgrifiad o’r llun,

Difrod i'r coed gerllaw yn sgil y gwyntoedd cryfion

"O'dd hi'n ofnadwy. 'Da ni erioed wedi gweld y ffasiwn beth. Roedd y cyfan yn drychinebus ac mae wedi achosi difrod anhygoel - ond mewn llai na dwy funud roedd o drosodd," meddai.

"Mae yna ddifrod dychrynllyd - 'dan ni'n amcanu bod dros £100,000 o waith ar y toeon yn unig - mae pob coeden o gwmpas y tŷ wedi mynd."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Deilwen Breese fod "pawb dan deimlad yma heddiw" wedi'r llanastr

Ffynhonnell y llun, Deilwen Breese
Disgrifiad o’r llun,

Roedd yna ddifrod i'r siediau ac fe gafodd ŵyn bach eu codi i'r awyr hyd yn oed, medd Mrs Breese

Ychwanegodd: "Pan ddos i nôl roedd y ffordd at y tŷ ar gau a do'n i ddim yn gallu dod fyny am oriau - roedd cymaint o goed ar y ffordd hefyd.

"Mae pob coeden wedi'i chael hi - fe 'sech chi wedi codi matsis i fyny ac wedi taflu nhw bob siâp bob tu.

"Roedd y gwynt hyd yn oed wedi codi ŵyn bach yn y siediau.

"O'dd 'na gutter yma ynghanol y ffordd wedi cael ei chodi ac wedi cael ei lluchio ar draws y ffordd fawr - lawr i un o'n caeau ni ac mae'r bois 'di bod yn gweld - allan nhw ddim hyd yn oed ei symud hi. Un cast iron ydy hi - ond meddyliwch y cryfder.

Ffynhonnell y llun, Deilwen Breese
Disgrifiad o’r llun,

Y llonyddwch ar ôl y storm: Cafodd nifer o goed cyfagos eu dinistrio yn y gwynt mawr

"Dim ond fan hyn sydd wedi cael ei effeithio - allen ni ddim credu'r peth ond 'da ni mor ddiolchgar i ffrindiau a phobl leol ddaeth o fewn teirawr i roi cover dros y toeon.

"'Da ni'n gallu aros yn y cartref oherwydd bod pobl wedi dod â'r scaffolding ddoe. Weles i ddim byd mwy anhygoel - allwch chi ddim talu nôl am gymwynas fel hyn na allwch?"

'Pethau fel hyn yn digwydd ar ffilm'

Dywed ei fod wedi ffonio'r ymwelwyr sydd i fod i gyrraedd yno yn fuan a bod y gwesteion yn parhau i ddod i aros.

"Mae'n galonogol bod yr ymwelwyr am ddod," meddai gan ategu ei bod yn ddiogel iddyn nhw ddod.

"Heddiw mae'r gŵr a fi mewn sioc - mae yna ddagra' yma heddiw. Mi 'dach chi'n gweld rhywbeth fel hynna ar ffilm - dydy pethau fel hyn ddim yn digwydd yng Nghymru fech.

"Mae'r coed wedi mynd - mae'r lle ro'n i'n ei alw yng Nghoedlan y Plas wedi mynd - mae'n anhygoel."

"Mae pawb dan deimlad yma heddiw a dweud y gwir," ychwanegodd wrth Cymru Fyw.

Pynciau cysylltiedig