'Angen ailfeddwl sut i drin salwch yn y gweithle'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
YnysuFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Does dim rheidrwydd i bobl gadw draw o'r gweithle os oes ganddyn nhw Covid bellach

Mae angen meddwl eto am y ffordd mae pobl yn trin salwch yn y gweithle yn sgil y pandemig, yn ôl mudiad busnes.

Mae'r Sefydliad Siartredig Personél a Datblygiad (CIPD) - sy'n cynrychioli gweithwyr ym maes adnoddau dynol - yn dweud na ddylai pobl deimlo bod angen iddyn nhw ddychwelyd i'r gwaith os nad ydyn nhw'n teimlo'n holliach.

Wrth i'r rheolau ar hunan-ynysu a phrofi newid, maen nhw'n dweud bod angen agwedd mwy aeddfed tuag at salwch, yn enwedig i bobl sydd â salwch heintus.

Yn ôl y gyfraith, does dim rhaid hunan-ynysu yng Nghymru ar ôl profi'n bositif bellach, er bod y llywodraeth yn cynghori pobl i wneud hynny.

Erbyn hyn, dim ond pobl sydd â symptomau Covid sy'n gallu cael prawf am ddim.

Ffynhonnell y llun, CIPD Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae "cyfrifoldeb personol ar weithwyr hefyd i ofalu am staff eraill sy'n gweithio efo nhw", meddai Nia Bennett

"Mae hynny yn rhywbeth mae'n rhaid i gyflogwyr fod yn eitha' clir efo staff," meddai Nia Bennett o CIPD Cymru.

"Falle yn y gorffennol bod rheolwyr wedi bod yn fwy llawdrwm a meddwl 'dim ond annwyd sydd ganddyn nhw', 'pam ti ddim yn dod i fewn?' Felly mae angen dealltwriaeth o'r ddwy ochr a'r cyfrifoldeb personol ar weithwyr hefyd i ofalu am y staff eraill sy'n gweithio efo nhw."

Ychwanegodd y gyfreithwraig cyflogaeth Fflur Jones o gwmni Darwin Gray: "Mae'r busnes Covid 'ma yn achosi rhyw gymaint o ddryswch.

"Y rheswm mae pobl bellach yn gorfod aros adre', neu'n meddwl y dylen nhw aros adre' ydy rhag heintio pobl eraill, nid achos bo' nhw'n wirioneddol sâl ar y cyfan, ac felly mae hwnnw wedyn yn creu cwestiynau anodd i'r cyflogwr."

Disgrifiad o’r llun,

Fe fydd meithrinfa Twts Tywi yn parhau â'r drefn o brofi staff yn wythnosol am y tro

Yn Llandeilo, mae Caryl Thomas yn rheoli meithrinfa Twts Tywi. Mae hi'n dweud bod llacio'r rheolau Covid wedi rhoi mwy o bwysau ar gyflogwyr.

"Gyda'r rheoliadau i gyd yn codi, mae'n rhoi straen mawr arnon ni fel rheolwyr, gyda phenderfyniadau anodd mae'n rhaid i ni 'neud i barhau â diogelwch a rhediad y feithrinfa," meddai.

"Mae rhifau uchel ar hyn o bryd yn yr ardal ac mae wedi bwrw yn galetach ar rai lleoliadau ble mae tipyn o aelodau staff wedi bod yn dost, ac felly'n absennol o'r lleoliad, ac maen nhw wedi gorfod cau rhan o'r busnes, sydd wedi cael effaith ar deuluoedd a'r busnesau eu hunain."

Fe fydd meithrinfa Twts Tywi yn parhau â'r drefn o brofi staff yn wythnosol, er bod yn rhaid talu am y profion bellach, ac yn dal i ofyn i staff hunan-ynysu os oes angen.

Mae costau eraill hefyd, gan gynnwys talu am offer diogelwch personol PPE.

"I fod yn onest," meddai Ms Thomas, "rhwng popeth bydd e'n codi bron dwbl beth ni wedi bod yn talu mas - sy'n mynd i fod yn rhoi lot o faich arnom ni ac ry'n ni'n ansicr o beth sydd o'n blaenau ni."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Caryl Thomas fod llacio'r rheolau Covid wedi rhoi mwy o bwysau ar gyflogwyr

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydyn ni'n symud y tu hwnt i gyfnod brys y pandemig, ac yn dysgu sut i fyw yn ddiogel gyda coronafeirws.

"Mae hyn yn golygu bod rhai agweddau o'n hymateb yn newid, ond mae hunan-ynysu pan fo gennych chi symptomau neu wedi profi'n bositif yn parhau i fod yn bwysig iawn.

"Mae'n help i dorri lledaeniad y feirws, gan amddiffyn iechyd y cyhoedd.

"Mae hwn yn gwneud synnwyr i iechyd cyhoeddus, ond mae hefyd o help i fusnesau a'r economi ehangach - gan sicrhau bod busnesau a sefydliadau eraill sy'n cysylltu â'r cyhoedd yn parhau i weithredu."

Pynciau cysylltiedig