Swyddfa Ystadegau: Mwy nag erioed â Covid yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Mae mwy o bobl nag erioed wedi'u heintio â Covid yng Nghymru ar hyn o bryd, yn ôl amcangyfrifon y Swyddfa Ystadegau Gwladol.
Maen nhw'n amcangyfrif fod un ym mhob 13 o bobl wedi bod â Covid yn yr wythnos hyd at 2 Ebrill.
Mae hynny'n gyfanswm o 230,800 o bobl - 7.6% o'r boblogaeth.
Ers haf 2020 mae'r swyddfa ystadegau (ONS) wedi profi miloedd o bobl ledled Cymru, a dyma bellach yw'r ffordd fwyaf manwl o amcangyfrif faint o'r boblogaeth sydd wedi'u heintio wedi i brofi torfol ddod i ben fis diwethaf.
Y grŵp oedran oedd â'r gyfradd uchaf o heintiadau yn yr wythnos ddiweddaraf oedd pobl 38 a 39 oed - 9.5% - tra'i fod yn llai na 6% i bobl dros 80 oed.
Mae'r ONS yn awgrymu fod y gyfradd achosion yn uwch yng Nghymru na Gogledd Iwerddon a'r Alban, a phump o'r naw rhanbarth yn Lloegr.
O fewn Cymru, maen nhw'n amcangyfrif fod y gyfradd ar ei hisaf yn y canolbarth a'r gorllewin (6.9%), ac ar ei huchaf yn ardal Cwm Taf Morgannwg (8.1%).
Dywedodd yr ONS fod cyfran y bobl hŷn sy'n profi'n bositif wedi cynyddu, tra bo'r tueddiadau'n fwy aneglur ymysg plant oedran ysgol ac oedolion ifanc.
Llai yn yr ysbyty â Covid
Ond mae nifer y bobl â Covid mewn ysbytai yn gostwng. 826 claf sydd â'r haint yn ysbytai Cymru ar hyn o bryd - 11% yn llai na'r wythnos ddiwethaf.
14% o'r rheiny sy'n cael eu trin am Covid yn benodol, gyda'r 86% arall yn cael eu trin yn bennaf am broblem arall.
17 o gleifion Covid sy'n cael eu trin mewn unedau gofal dwys - yr un nifer â'r wythnos ddiwethaf.
Mae data newydd hefyd yn dangos fod mwy o bobl yn adrodd fod ganddyn nhw Covid hir, gyda 83,000 o bobl yn delio gyda'r haint yng Nghymru bellach - y ffigwr uchaf eto.
Mae 36,000 o bobl hefyd yn adrodd fod eu symptomau Covid wedi parhau, dros flwyddyn wedi iddyn nhw gael eu heintio.
Blinder yw'r symptom mwyaf cyffredin, gyda 51% o'r rheiny sy'n dweud fod ganddynt Covid hir yn ei adrodd, tra bod 34% yn dweud eu bod yn dal yn fyr eu gwynt.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Ebrill 2022
- Cyhoeddwyd31 Mawrth 2022
- Cyhoeddwyd30 Mawrth 2022
- Cyhoeddwyd29 Mawrth 2022