Rheolau gwisgo masgiau a hunan-ynysu wedi dod i ben

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
masgiauFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd dim rhaid gwisgo masgiau yn y rhan fwyaf o lefydd o ddydd Llun ymlaen

Nid yw bellach yn ofyniad cyfreithiol i wisgo mwgwd mewn siopau neu ar fysiau a threnau yng Nghymru.

Ddwy flynedd i mewn i'r pandemig, mae rheolau hunan-ynysu hefyd wedi dod i ben.

Ond bydd angen eu gwisgo mewn ysbytai a chartrefi gofal o hyd.

Mae Llywodraeth Cymru wedi penderfynu peidio â chael gwared ar ei holl gyfreithiau Covid mewn ymateb i gyfraddau cynyddol o achosion.

Bydd yn ofynnol o hyd i gwmnïau gymryd rhagofalon ac asesu risg coronafeirws ar eu heiddo.

Ond bydd rhai rheolau mawr, gan gynnwys y gyfraith hunan-ynysu, yn dod i ben fel y cynlluniwyd.

Beth sy'n newid o ddydd Llun?

  • Ni fydd gorchuddion wyneb yn ofynnol yn ôl y gyfraith mewn lleoliadau manwerthu ac ar drafnidiaeth gyhoeddus, er y byddant yn parhau i gael eu hargymell mewn cyngor iechyd cyhoeddus;

  • Bydd y gofyniad i hunan-ynysu hefyd yn symud i fod yn ganllawiau;

  • Bydd taliad hunan-ynysu o £500 i gefnogi pobl yn parhau i fod ar gael tan fis Mehefin;

  • Bydd gorchuddion wyneb yn parhau i fod yn ofyniad cyfreithiol mewn lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol;

  • Rhaid i fusnesau hefyd barhau i gynnal asesiadau risg ar gyfer y coronafeirws, gyda mesurau rhesymol yn cael eu rhoi ar waith yn sgil yr asesiadau hynny.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Ni fydd angen gorchuddion wyneb yn gyfreithiol yn siopau Cymru

Beth ydy barn y bobl?

Mae Kirin Jones yn gweithio yn siop trin gwallt Eclipse yn Ninbych.

"Mae gen i dipyn bach o mixed emotions i dd'eud y gwir," meddai.

"Dwi'n dallt bo' rhaid i ni symud ymlaen efo'n bywydau yndoes, ond ar yr un un pryd, ma 'na 'chydig bach o hesitation hefyd.

"Gen i Taid a Nain sy' bach yn vulnerable ac ma' gen i bach o ofn pasio rwbath ymlaen atyn nhw.

"Mi fyddan ni yn rhoi yr opsiwn i gwsmeriaid i 'neud be ma' nhw isio.

"Allwn ni ddim fforsio neb i neud os 'dy nhw'm ishio. Ond mae genno ni lot o hen gwsmeriaid, ac ma'n rhaid i ni ofalu amdanyn nhw 'does."

Disgrifiad o’r llun,

Mae gan Kirin Jones deimladau cymysg am y newidiadau

Mae Gwen Davies yn gweithio yn siop Diskos yn Ninbych.

"Dwi dal yn mynd i wisgo nhw yn y siope', ond dwi ddim isio gwisgo nhw pan dwi allan o gwbl," meddai.

"Mae o fyny i'r individual, dyna'r cwbl fedra i ddeud.

"O ran y cwsmeriaid sy'n dod yma, mae 'na rei sydd isio gwisgo nhw, a lleill ddim, mae o fyny i bawb benderfynu ei hunain dydi."

'Anodd gweld ymateb cwsmeriaid gyda masgiau'

Mae Vicky McDonald yn berchen ar siop siocledi ar y Stryd Fawr yn y Barri.

Roedd hi'n ben-blwydd arni ddydd Sul a dywedodd fod rhoi diwedd ar wisgo masgiau mewn manwerthu "yn teimlo fel anrheg hyfryd gan Drakeford".

Dywedodd Ms McDonald ei bod wedi bod yn anodd rhedeg busnes oherwydd bod Covid "yn gorfod cadw i fyny â rheoliadau sy'n esblygu'n gyson."

"Yn bersonol rwy'n croesawu codi masgiau a chyfyngiadau dim ond oherwydd fy mod yn awyddus iawn i fynd yn ôl i fywyd normal.

"Rwy'n ei chael hi'n anodd iawn cyfathrebu â chwsmeriaid gyda'r mwgwd ymlaen hefyd.

"Mae'n anodd mesur beth maen nhw'n ei deimlo am eu profiad yn y siop."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Ian Toomey a Trevor Dell yn mynd i barhau i wisgo masgiau pan fyddan nhw'n gweithio

I lawr y ffordd, mae barn yr adeiladwyr Ian Toomey a Trevor Dell yn wahanol.

"Fe ddylen ni gadw'r masgiau wyneb ym mhob ardal adeiledig, stadia pêl-droed, gemau rygbi, ym mhobman lle rydych chi'n cael torf dda," dywed Trevor Dell.

Mae Ian yn meddwl bod Covid yn cael llai o sylw yn y cyfryngau oherwydd y rhyfel yn Wcráin a bydd ef a Trevor yn parhau i wisgo masgiau pan fyddan nhw'n gweithio.

"Rydyn ni'n gwisgo masgiau yng nghartrefi pobl, rydyn ni'n gwisgo masgiau mewn cyflenwyr adeiladu, ble bynnag rydyn ni'n mynd lle mae pobl eraill, rydyn ni'n gwisgo masgiau."

'Testun pryder'

"Rydyn ni ychydig bach yn siomedig a dweud y gwir," medd Ceri Williams o TUC Cymru wrth y BBC.

"Dyw gwisgo mwgwd ddim yn llawer i ofyn - mae pobl wedi ymgyfarwyddo â hynny nawr."

Lleisiodd Mr Williams bryder am effaith y newidiadau ar weithwyr o fewn trafnidiaeth, ac ar bobl sydd angen defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus er mwyn cyrraedd y gwaith.

"Yn sicr o ran iechyd a diogelwch, a phobl sy'n fregus, mae hyn yn destun pryder."

Disgrifiad,

Ceri Williams buodd yn siarad ar Dros Frecwast

Ychwanegodd bod diddymu'r gyfraith ynghylch hunan-ynysu yn golygu y byddai rhai gweithiwyr yn teimlo eu bod yn cael eu "gorfodi" yn ôl i'r gwaith.

Dywed nad ydy canllawiau'n ddigonol er mwyn sicrhau fod pobl yn parhau i fod yn ofalus.

Roedd yn falch bod angen i fusnesau barhau i wneud asesiadau risg a chymryd rhagofalon.

'Eisiau byw fel normal'

Disgrifiad,

Prif Weithredwr Fforwm Gofal Cymru, Mary Wimbury, fuodd yn siarad

Dywedodd Prif Weithredwr Fforwm Gofal Cymru ei bod hi'n "deall" pam fod yr angen i wisgo mygydau mewn lleoliadau gofal yn parhau.

"Mae pobl sy'n byw mewn cartrefi gofal yn fregus.

"Ond mae'n anodd - mae'n anodd i bobl sy'n byw yno, ac mae'n anodd i staff, achos mae pawb isho mynd yn ôl i normal," medd Mary Wimbury.

Dywed Ms Wimbury nad ydy cartrefi gofal yn profi problemau sylweddol yn ymwneud a Covid ar hyn o bryd - "mae'r brechiad wedi bod yn game changer".

"'Dan ni isho bod mewn lle heb masks, heb protections, achos mae pobl jest isho byw fel normal."