Teyrngedau i ddyn fu farw mewn gwrthdrawiad ym Mangor

  • Cyhoeddwyd
Jordan Lee FreemanFfynhonnell y llun, Heddlu Gogledd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Dywed teulu Jordan Lee Freeman ei fod yn "ddyn caredig a hwyliog a oedd yn caru ei deulu"

Mae'r heddlu wedi dweud mai Jordan Lee Freeman oedd y dyn, 21 oed, a fu farw wedi gwrthdrawiad ym Mangor ddydd Gwener.

Roedd e'n dod o ardal Bangor a bu farw yn syth wedi'r gwrthdrawiad ar Ffordd Garth ger tafarn Yr Iard Gychod ychydig cyn 11:00.

Dywed ei deulu eu bod "wedi torri eu calonnau" ac maent wedi ei ddisgrifio fel "mab, ŵyr, brawd a ffrind a fydd yn cael ei golli'n fawr".

Mae Heddlu'r Gogledd yn parhau i apelio am wybodaeth am y digwyddiad - yn enwedig gan unrhyw un a welodd feiciau modur yn cael eu gyrru yn yr ardal cyn y digwyddiad.

Mewn datganiad dywedodd teulu Mr Freeman: "Roedd e'n ddyn hwyliog a charedig oedd yn caru ei deulu.

"Roedd e wrth ei fodd gyda beiciau, beiciau modur, ceir cyflym ac yn mwynhau treulio amser yn y garej yn stwna gydag amrywiol geir.

"Ry'n wedi'n syfrdanu gan farwolaeth sydyn Jordan a'r golled drasig."

Pynciau cysylltiedig