'Rhaid rhoi buddugoliaeth Lloegr mewn cyd-destun'
- Cyhoeddwyd
Dywed Siwan Lillicrap, capten tîm rygbi merched Cymru, ei bod hi'n hynod bwysig i'r tîm roi eu colled drom ddydd Sadwrn yn erbyn Lloegr mewn cyd-destun a bod yn rhaid cofio mai newydd fynd yn broffesiynol mae chwaraewyr Cymru.
"Mae'r merched yn siomedig ond fy neges yw bod rhaid i ni beidio digalonni," meddai Ms Lillicrap wrth siarad â BBC Cymru.
"Ry'n ni'n siomedig gyda'r canlyniad ond mae'n rhaid i ni edrych ar yr ochr bositif - ni wedi cymryd stepiau fyny ac ry'n ni wedi gwella yn y cwpwl o wythnosau diwethaf fel carfan," meddai yn ei chyfweliad Cymraeg wedi'r gêm.
"Fe fyddwn ni'n edrych ar y gêm nawr a dod nôl yn gryfach yn erbyn Ffrainc.
"Gawson ni ddechrau da a ni wedi gwella yn ystod yr wythnosau diwethaf. Fe wnaeth yr anaf yna i Abby Dow - chwaraewraig Lloegr - ac rwy'n gobeithio bod hi'n iawn annog nhw 'mlan tipyn bach ac ro'dd y momentwm wedi shifto tamed bach.
"Ond ma'n rhaid i ni gadw'r bêl yn well er mwyn aros yn y gêm."
'Ddim yn digwydd dros nos'
"Rhaid rhoi'r canlyniad mewn persbectif ac ystyried ble ry'n ni fel sgwad - 'da ni ond wedi bod yn broffesiynol am dri mis," ychwanegodd Siwan Lillicrap.
Fe gafodd chwaraewyr Lloegr gytundebau proffesiynol yn 2019.
"Ni gyda parch mawr i Loegr ac fe wnaethon nhw chwarae'n wych ond ma' nhw wedi bod yn broffesiynol am amser ond mae'n rhaid i ni gadw ein traed ar y llawr a datblygu ac edrych ar y gêm.
"O'dd e'n anodd gweld Lloegr yn sgorio gymaint ond ro'dd yn rhaid i ni ffocysu ar y dasg nesaf o'n blaen ni.
"Ni mo'yn cyrraedd yr un safon â Lloegr - ni'n chwarae i'n gwlad ac ry'n am fod yn un o'r timoedd gorau yn y byd ond mae hynna'n cymryd amser.
"Dyw bod yn broffesiynol a chael perfformiad da ddim yn digwydd dros nos - rhaid i ni gael amser i ddatblygu."
'Prowd iawn'
Ychwanegodd bod yr awyrgylch yng Nghaerloyw yn wych wrth i 14,689 ddod i weld y gêm.
"Ry'n am chwarae mewn awyrgylch fel 'na drwy'r amser," meddai.
Ar ei chyfrif trydar nos Sadwrn ysgrifennodd Siwan Lillicrap nad oedd yn medru cysgu a bod colli'n brifo ond ychwanegodd ei bod am ddiolch am yr holl negeseuon caredig.
Dywedodd Ioan Cunningham, y prif hyfforddwr ei fod yn "prowd iawn o berfformiad y merched".
"Maen nhw wedi rhoi lot o waith caled mewn ac mae cyfle gwych 'da ni nawr i ddysgu o'r gêm hyn.
"Ma' lot o bethau bach ni'n gallu 'neud yn eitha cyflym i helpu ni - o'dd yr hanner cyntaf 'na wedi dangos lot fawr o galon ac ysbryd.
"Bydd seibiant cyn gêm Ffrainc yn rhoi cyfle gwych i ni orffwys y corff ac yna troi'n sylw at y gêm.
"Mae tîm Ffrainc hefyd yn bwerus - mae yna lot o unigolion da sy'n cario'r bêl yn gryf.
"Bydd e'n sialens arall i ni ond ni'n edrych ymlaen am y gêm gartref."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Ebrill 2022
- Cyhoeddwyd2 Ebrill 2022
- Cyhoeddwyd26 Mawrth 2022