Iaith y nefoedd: Y Pab yn annog defnydd o'r Gymraeg
- Cyhoeddwyd
Mae'r iaith Gymraeg wedi derbyn sêl bendith gan un o ffigyrau enwoca'r byd mewn gwasanaeth arbennig gan yr Eglwys Gatholig yn Llundain.
Cafodd y gwasanaeth Offeren Mewn Diolchgarwch ei chynnal i Gatholigion Cymreig Llundain yn Eglwys St James, Spanish Place, ar Ddydd Mercher, 30 Mawrth.
Tuag at ddiwedd y gwasanaeth cafodd neges arbennig ei ddarllen gan yr Archesgob Gugerotti yn enw'r Pab Francis. Mae Archesgob Gugerotti yn gweithio fel Nuncio, sydd yn debyg i ddiplomydd neu lefarydd ar ran yr Eglwys Gatholig.
Dywedodd Archesgob Gugerotti fod y Pab "yn hapus iawn i ddeall bod gwasanaeth Cymraeg yn cael ei chynnal."
'Annog defnyddio'r Gymraeg'
Aeth ymlaen i ddweud er ei fod wedi astudio ieithoedd, roedd y Pab wedi ffeindio'r Gymraeg yn anodd yn y gorffennol, ond ei fod yn hoff o'r gair 'popty-ping' am ei fod yn air modern, ac mae'r Pab yn credu fod hi'n bwysig i hen ieithoedd aros yn gyfoes.
Dywedodd Archesgob Gugerotti fod y Pab yn "ymwybodol o dreftadaeth ddiwylliannol a hanesyddol Cymru, ac o gysylltiadau hynafol Cymru â Christnogaeth gyda Seintiau fel Beuno, Gwenffrewi a Cadog.
"Mae'r Pab hefyd eisiau annog Cymry a phobl sydd am weld y dreftadaeth yma'n parhau i ddefnyddio'r Gymraeg, i'w hastudio, siarad a gweddïo drwy gyfrwng yr iaith hynafol."
"Mae'r Tad Sanctaidd yn gyrru ei bresenoldeb ysbrydol ac mae ei gofion cynhesaf yn ei weddïau at bawb sy'n cymryd rhan yn y digwyddiad Eglwysig pwysig yma.
"Fel addewid o'r nefol ras, mae'r Tad Sanctaidd yn galw gweddi'r Forwyn Fair Fendigaid a Dewi Sant, Nawddsant Cymru, ac yn rhannu'n gynnes, ei Fendith Apostolaidd."
Yr Offeiriad Gildas Parry O'Praem roddodd yr offeren mewn diolchgarwch o gyfraniad Cymru i'r Eglwys, ac roedd yna bedwar côr yno'n canu, ynghyd â Seindorf Y Gwarchodlu Cymreig.
Dywedodd y Tad Gildas wrth BBC Cymru Fyw: "Roedd hi'n anrhydedd mawr cael dathlu Offeren arbennig yn y Gymraeg yn eglwys St James's Spanish Place, Marylebone, ar 30ain o Fawrth. 'Roedd yn achlysur i'r gymuned Gatholig Gymraeg yn Llundain, ynghyd â'n brodyr a chwiorydd o eglwysi eraill, mynegi diolch i Dduw am gyfraniad ein diwylliant fel Cymry i fywyd a chenhadaeth yr Eglwys fyd-eang ar hyd y canrifoedd.
"Pleser o'r mwyaf oedd cael croesawu i'n plith nifer o westeion o fri, gan gynnwys y Nuncio Apostolaidd, hynny yw Llysgennad y Pab yma ym Mhrydain, yr Archesgob Claudio Gugerotti. Traddododd neges bwysig iawn i ni gan y Pab Ffransis, lle bu'n ein hannog i ddefnyddio ein hiaith a'n hetifeddiaeth Cymreig yn ein bywydau ysbrydol a litwrgaidd, ac hefyd wrth bregethu'r Efengyl i'n cydwladwyr.
"Hefyd, yn bwysig iawn, rhoddodd y Pab ei gefnogaeth i'r rhai sy'n hyrwyddo'r Offeren Gymraeg a'r litwrgi yn yr iaith Gymraeg. 'Roedd neges Pab Ffrancis yn un hynod o gefnogol, a dwi'n siŵr bydd Catholigion Cymraeg eu hiaith yn arbennig o ddiolchgar o'i chlywed."
Ymweliad 1982
Mae'r Pab wedi ymweld â Chymru yn y gorffennol wrth gwrs, ond y Pab John Paul II oedd hwnnw, 40 mlynedd yn ôl.
Ar 2 Mehefin 1982 fe gyrhaeddodd y Pab Gaerdydd, ac fe dderbyniodd anrhydedd Rhyddid y Ddinas.
Teithiodd John Paul II i Gaeau Pontcanna gan gynnal gwasanaeth o flaen cynulleidfa o 100,000 o bobl.
Fe roedd rhan o'r anerchiad yn Gymraeg, gyda'r Pab yn dweud "Bendith Duw arnoch", gyda'r dorf yn cymeradwyo.
Wedi hynny fe aeth y Pab ymlaen i Barc Ninian, cartref Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd ar y pryd. Yno roedd 'na 33,000 o bobl ifanc, gyda gwasanaeth yn galw am heddwch (roedd hyn yn ystod Rhyfel y Falklands).
Hefyd o ddiddordeb: