Canmol synnwyr chwarae teg pêl-droediwr ifanc

  • Cyhoeddwyd
Aled a'i fam Bethan
Disgrifiad o’r llun,

Mae Bethan Hughes yn falch iawn o safiad ei mab Aled

Mae bachgen 12 oed wedi cael ei ganmol am ei onestrwydd a'i synnwyr chwarae teg mewn gêm bêl-droed, ar ôl dweud wrth y dyfarnwr na ddylai ganiatáu gôl yr oedd o newydd helpu i'w chreu.

Mae Aled Hughes, yn chwarae i dîm dan-12 Tref Dinbych, ac mewn gêm yn erbyn Bae Cinmel yn ddiweddar, sgoriodd bump o'r 10 gôl a sgoriodd ei dîm.

Byddent wedi cael 11 onibai am y ffaith nad yw Aled yn credu mewn twyllo i ennill.

Ar ôl rhediad i lawr yr asgell, tynnodd Aled y bêl yn ôl i un o'i gyd-aelodau, ac fe darodd hi i'r rhwyd.

Dathlodd Dinbych, ond protestiodd Bae Cinmel, gan ddweud fod y bêl wedi croesi'r llinell cyn i Aled ei chroesi.

Penderfyniad anodd

Nid oedd y dyfarnwr na'r llumanwr wedi gweld hynny, ac fe ganiatawyd y gôl.

Ond fel yr oedd Bae Cinmel yn paratoi i ail-ddechrau'r gêm, tynnodd Aled sylw'r dyfarnwr a dweud wrtho fod y bêl wedi croesi'r llinell cyn ei groesiad.

Derbyniodd y dyfarnwr ei eglurhad, a dileu'r gôl gan ganmol Aled am ei onestrwydd ac am arddel chwarae teg, a chafodd gymeradwyaeth gan gefnogwyr a hyfforddwyr y ddwy ochr.

Eglurodd Aled ei fod o'n benderfyniad digon anodd, wrth weld aelodau ei dîm yn dathlu'r gôl.

"Oedd o'n anodd ond roedd tîm nhw ddim yn hapus, ac roeddwn i'n gwybod beth oedd wedi digwydd," meddai Aled.

"Roedd o'n teimlo fel ei fod yn anonest, a doedd o ddim yn deg.

"Dydi o ddim yn iawn i dwyllo er mwyn ennill."

Dywedodd ei fam, Bethan Hughes: "Dwi'n falch iawn ohono fo am sefyll i fyny dros fod yn onest ac am ei sbortsmonaeth yn y gêm.

"Mae'n cymryd lot o hyder i sefyll i fyny dros be' mae o'n gredu ac mae hynny'n glod i'r hyfforddwyr hefyd am hybu gonestrwydd."

Cafodd Aled wobr o £25 gan Gynghrair Iau Rhyl a'r Cylch am ei onestrwydd a'i chwarae teg.

Pynciau cysylltiedig