Pêl-droed: Gwella ymddygiad rhieni mewn gemau plant
- Cyhoeddwyd
Mae rheolwr tîm pêl droed Cymru, Chris Coleman, yn lansio ymgyrch Cymdeithas Bêl-droed Cymru i wella ymddygiad rhieni wrth iddyn nhw wylio gemau plant.
Yn Ysgol Glantaf, Caerdydd, ddydd Mercher bydd ffilm yn cael ei dangos i annog rhieni i ystyried eu hymddygiad wrth wylio eu plant ar y cae.
Ar hyn o bryd mae 'na bryder bod plant yn gorfod gwrando ar iaith anweddus o'r llinell ystlys.
Gall clywed yr iaith yma olygu fod plant yn colli awydd a mwynhad wrth chwarae'r gêm, yn ôl rhai.
Yn ôl y Gymdeithas, mae'r ymddygiad gwael yma ar gynnydd ac maent yn cynghori rhieni i annog eu plant mewn ffordd adeiladol.
Dadlau efo dyfarnwyr
Wrth siarad ar raglen y Post Cyntaf fore Mercher, dywedodd Daniel Gwyn Hughes, o Gaerdydd, sy'n hyfforddi timau pêl-droed ifanc ac sy'n rhan o'r ymgyrch:
"Be' sy'n digwydd yn aml ydy bod rhieni'n anghytuno gyda rhywbeth sydd wedi digwydd ar y cae ac yn dadlau am y peth.
"Mae'r rhan fwya' o'r achosion dwi 'di gweld yn cynnwys dadlau gyda dyfarnwyr.
"Pwrpas y cynllun yw sicrhau bod plant yn gallu mwynhau'r profiad o chwarae pêl-droed ar fore dydd Sadwrn, heb boeni bod eu rhieni nhw'n mynd i ffraeo neu bod nhw'n mynd i gael row.
"Ambell i dro 'da chi'n clywed iaith wael fyddech chi'n disgwyl clywed mewn gemau cynghrair yn cael ei weiddi o'r ochrau ac unigolion yn cael eu pwyntio allan i'r tîm arall ac i'r rhieni.
"Pan mae'r iaith wael yma'n cael ei defnyddio, falle bod y plant yn ei ailadrodd.
"Chi'n gweld yr effaith ar y plentyn yn syth - mae'r mwynhad wedi mynd."
Dywedodd y dyfarnwr pêl-droed o Feifod, Huw Lewis: "Y broblem ydi bod nifer o ddyfarnwyr ar y lefel yma yn ifanc yn ddi-brofiad ac yn aml ddim yn medru delio efo rhieni sy'n gweiddi a bytheirio."
Roedd 12 o blant o ysgolion Caerdydd yn rhan o'r ffilm ddwyieithog, gyda Coleman yn siarad yn gyhoeddus yn Gymraeg am y tro cyntaf.