Y Bencampwriaeth: Hull City 2-1 Caerdydd
- Cyhoeddwyd
Colli fu hanes Caerdydd yn erbyn Hull City yn eu gêm Bencampwriaeth ar Ddydd Gwener Y Groglith.
Roedd rheolwr Caerdydd, Steve Morison, yn amlwg yn edrych tuag at y tymor nesaf, wrth iddo wneud saith newid i'r tîm a enillodd o 2-1 yn erbyn Reading yn ddiweddar, yn cynnwys gêm gyntaf yn y Bencampwriaeth i Oliver Denham, un o chwaraewyr addawol academi'r Adar Gleision.
Fe ddylai Caerdydd fod ar y blaen ar ôl dau funud, ond gyda dim ond y gôl-geidwad i'w guro, saethodd Uche Ikpeazu yn syth ato.
Talodd yr ymwelwyr yn ddrud wedi hynny, pan sgoriodd Hull ddwy gôl gydag ond 11 munud ar y cloc - pas wael yn ôl i'r gôl-geidwad gan Mark McGuinness yn caniatáu i Sayyadmanesh sgorio'r gyntaf, a chic wael allan o'r amddiffyn, gan McGuinness eto, yn arwain at gôl i Regan Slater.
Bu bron i Ikpeazu sgorio i'r ymwelwyr gyda chic dros ei ben, ond arbedodd Ingram yn wych yn y gôl i Hull.
Gwelwyd gwelliant yn chwarae Caerdydd wedi'r egwyl a peniodd Aden Flint ei chweched gôl o'r tymor, ond doedd hi ddim yn ddigon yn y diwedd.
Mae Caerdydd bellach yn y 17eg safle.