'Anafiadau difrifol' i gerddwr ar ôl disgyn yn Eryri

  • Cyhoeddwyd
Sefydliad Achub Mynydd Dyffryn Ogwen yn achubFfynhonnell y llun, Sefydliad Achub Mynydd Dyffryn Ogwen

Cafodd cerddwr mynydd ei gludo i'r ysbyty mewn hofrennydd ar ôl dioddef anafiadau difrifol wedi iddo ddisgyn yn Eryri.

Aeth Sefydliad Achub Mynydd Dyffryn Ogwen a thîm achub hofrennydd Gwylwyr y Glannau i gymorth y dyn ar ôl iddo ddisgyn o gyli ar Grib Gogleddol Tryfan ddydd Gwener.

Cafodd ei roi mewn stretsier a'i ostwng i leoliad addas cyn cael ei winsio i mewn i'r hofrennydd a'i hedfan i Ysbyty Gwynedd, Bangor am driniaeth.

Bu tîm achub mynydd hefyd yn helpu cerddwr i ddiogelwch wrth iddi anafu ei ffêr ar ôl llithro ar graig wlyb yn Llyn Cowlyd ddydd Gwener.

Ac fe gariodd gwirfoddolwyr drydydd person wedi'i anafu i ambiwlans oedd yn aros ar ôl iddo frifo ei goes tra mewn chwarel yn Neganwy, sir Conwy.

"Roedd dydd Gwener y Groglith yn ddechrau prysur i Ŵyl y Banc," meddai'r mudiad.