Morgannwg yn trechu Sir Nottingham yn Trent Bridge

  • Cyhoeddwyd
Marnus LabuschagneFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Sgoriodd Marnus Labuschagne hanner canrif i dywys Morgannwg at y fuddugoliaeth

Fe wnaeth tîm Morgannwg fwynhau buddugoliaeth hawdd dros Sir Nottingham ar ddiwrnod olaf y gêm yn Ail Adran Pencampwriaeth y Siroedd ddydd Sul.

Llwyddodd y Cymry i drechu Sir Nottingham o saith wiced, gan gyrraedd 166-3 ar Sul y Pasg braf i ennill.

Sgoriodd y tîm cartref 302 yn eu batiad cyntaf, cyn i Forgannwg ymateb gyda chyfanswm o 379.

Wedi i Sir Nottingham sgorio 242 yn eu hail fatiad, roedd gan Forgannwg dasg hawdd o sgorio llai na 170 am y fuddugoliaeth, gyda mwyafrif llethol y diwrnod olaf yn weddill i wneud hynny.

Llwyddodd Marnus Labuschagne a Kiran Carlson i leddfu pryder y Cymry a sicrhau'r fuddugoliaeth gyda 50 a 47 heb fod allan.

Dyma oedd y tro cyntaf i Forgannwg ennill yn y Bencampwriaeth yn Trent Bridge ers 1998, gan sicrhau 23 phwynt.

Daw hyn wythnos wedi eu gêm gyfartal yn erbyn Durham yng Ngerddi Soffia.

Pynciau cysylltiedig